Amdanom ni

 VFXMae Grŵp Boom yn un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru. Sefydlwyd ni yn 1994, ac mae’r cwmni bellach yn cynhyrchu dros 400 awr o gynnwys aml-genre yn flynyddol i S4C, BBC, ITV, C4, C5 a UKTV/Dave.

 

Drwy ein hadrannau teledu a digidol, Boom Cymru, Boom, Boom Social a Boom Plant, mae gan y grŵp brofiad helaeth o gynhyrchu cynnwys ffeithiol, adloniant ffeithiol, adloniant, drama a phlant. Un o brif nodweddion ein cynyrchiadau yw’r cyfuniad o stori gref a gwerthoedd cynhyrchu uchel.

 

Mae Boom Cymru wedi ymroi i gynhyrchu cynnwys o’r safon uchaf i’r darlledwyr Cymraeg – S4C, BBC Cymru ac ITV Cymru – ac mae adran Boom yn canolbwyntio ar greu cynnwys cymhellgar i ddarlledwyr rhwydwaith Prydeinig a’r farchnadoedd ryngwladol. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o’n cynnwys adloniannol a dyfeisgar ar gyfer yr amryw blatfformau cymdeithasol.

 

Fel un o gynhyrchwyr cynnwys plant mwyaf Prydain, mae arbenigedd Boom Plant yn pontio rhaglenni o oedran meithrin i blant 13 oed. Mae’r adran yn gyfrifol am ran helaeth o gynnwys meithrin a phlant S4C, yn ogystal â chynnwys i CiTV, C5 a CBBC, ac yn coflogi dros 50 aelod o staff llawn amser. Wedi ei lleoli ym mhencadlys Boom yn Gloworks, Caerdydd, mae Boom Plant yn gartref i ddwy stiwdio HD, galeri gweithredol ac adnoddau ôl-gynhyrchu eang.

 

Mae grŵp Boom yn cyflogi tua 230 aelod o staff yng Nghymru, ac yn ychwanegol i adrannau Boom, Boom Cymru, Boom Social a Boom Plant, mae’r grŵp hefyd yn cynnwys cwmni adnoddau ac ôl-gynhyrchu blaenllaw, Gorilla, cwmni effeithiau arbennig Gorilla VFX a chwmni graffeg Bait.

Hefyd yn rhan o Grŵp Boom mae’r cwmni o Lundain ac enillydd gwobrau BAFTA ac Emmy, Oxford Scientific Films, sydd yn cynhyrchu rhaglenni ffeithiol arbenigol i ddarlledwyr ledled y byd.

Rydym yn rhan o ITV studios.

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV