Mae pumed cyfres 35 Diwrnod yn ddrama gyfoes wedi ei gosod mewn tref glan môr ac yn ymwneud â pherthnasau hen a newydd sy’n symud a newid gyda’r llanw. Mae’n dinoethi’r gwrthdaro rhwng y rhai tu mewn a tu allan i gymdeithas glos, a’r tensiynau sy’n dod o fagwraeth ac wedyn o orfod cyd-fyw mewn tref fechan.
Cawn ein cyflwyno i grwp o hen ffrindiau ysgol sy’n ail-gwrdd wedi cyfnod ar wahan. Ydi eu hanes hir yn ddigon i’w clymu at ei gilydd? Gall y dref fod yn fwy na’n fan geni – neu’n rhywle iddyn nhw fedru setlo a chanfod eu hunain, a’i gilydd – unwaith eto?