Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Cystadlaethau
a Chynnwys a Gynhyrchir gan Ddefnyddwyr (UGC). 

Mae eich data yn bwysig. Mae’n bwysig i ni ac rydyn ni’n deall ei fod yn bwysig i chithau. Mae Boom Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth yn unol â’r deddfau diogelu data a phreifatrwydd diweddaraf. Rydyn ni hefyd eisiau bod yn dryloyw ynglŷn â pha wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu amdanoch chi, sut rydyn ni’n ei defnyddio a sut y gallwch chi reoli’r hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth hon.

Ynglŷn â’r hysbysiad hwn

Yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, ystyr “ni” ac “ein” yw Boom Cymru TV Cyf (rhan o ITV Studios). Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ym mis Mehefin 2021.

Yr hyn mae’r rhybudd hwn yn ei gwmpas

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol os ydych chi’n defnyddio ein cynhyrchion a’n gwasanaethau os ydych, er enghraifft:

  • yn ymgeisio mewn un o’n cystadlaethau
  • yn anfon deunydd a gynhyrchir gan ddefnyddwyr (“UGC”) atom i’w gynnwys yn un o’n rhaglenni gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, anfon negeseuon a lluniau atom ar gyfer cais pen-blwydd ar Cyw

Yr hyn nad yw’r rhybudd hwn yn ei gwmpasu

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys cwmnïau, gwasanaethau neu apiau nad ydym yn berchen arnynt neu’n eu rheoli, neu bobl nad ydym yn eu cyflogi neu’n eu rheoli. Mae hyn yn cynnwys (heb gyfyngiad) gwefannau, tudalennau, apiau / celfigion (widgets) neu wasanaethau eraill trydydd parti yr ydym yn cysylltu â nhw neu’n eu cynnig trwy ein cynhyrchion a’n gwasanaethau.

Yn yr achosion hyn, cyfeiriwch yn lle hynny at hysbysiad preifatrwydd y trydydd parti perthnasol.

Yn ogystal â hynny, nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys:

  • defnyddio ein gwefannau, e.e. www.boomcymru.co.uk Gallwch ddod o hyd i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yma: https://www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd-boom-cymru/ 
  • ymgeiswyr, cyfranwyr, talentau neu gynulleidfa ein cynyrchiadau. Gallwch ddod o hyd i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yma: https://www.boomcymru.co.uk/hysbysiad-preifatrwydd-boom-tv-cyf-ar-gyfer-ymgeiswyr-a-chyfranwyr-rhaglenni/

Pa wybodaeth ydyn ni’n ei chasglu, ei storio a’i defnyddio?

Mae’r wybodaeth a gasglwn amdanoch yn dibynnu ar ba gystadlaethau rydych chi’n ymgeisio ynddynt a’r UGC rydych chi’n ei gyflwyno, ond dim ond lle bo hynny’n angenrheidiol y byddwn ni’n casglu’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r wybodaeth rydyn ni (neu ein trydydd partïon awdurdodedig) yn ei chasglu yn cynnwys:

  • gwybodaeth bersonol rydych chi’n ei chyflwyno i ni pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer cystadleuaeth neu’n ymgeisio ynddo, neu’n cyflwyno UGC neu pan fyddwch chi’n diweddaru’ch manylion cyswllt.  Er enghraifft, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu’ch enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, rhif ffôn. Os ydych chi’n blentyn, bydd angen y wybodaeth uchod arnom hefyd am eich rhiant / gwarchodwr. Sylwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw ddata cofrestru rydych chi’n ei ddarparu i ni yn gywir ac yn cael ei ddiweddaru’n gyson
  • gwybodaeth rydych chi’n ei datgelu i ni pan fyddwch chi’n cysylltu â ni am gystadleuaeth neu am eich UGC 
  • data arall a gasglwn er mwyn adolygu cydymffurfiad â’n telerau ac amodau a / neu fel arall fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

O ble rydyn ni’n casglu’ch gwybodaeth bersonol?

Rydym ni (neu ein trydydd partïon awdurdodedig) yn casglu gwybodaeth amdanoch chi:

Beth

Ein ffynonellau

Gwybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni amdanoch chi neu’ch rhiant / gwarcheidwad

  • pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer ein cystadlaethau neu pan fyddwch chi’n cyflwyno UGC;
  • pan fyddwch chi’n diweddaru’ch manylion;
  • pan fyddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad neu’n rhoi adborth inni am gystadleuaeth neu am eich UGC; 
  • eich cyflwyniad UGC; 
  • pan fyddwch yn ymgeisio mewn cystadleuaeth.

Gwybodaeth a gawn gan eraill

  • gan awdurdodau rheoleiddio llywodraethol a chymwys y mae gennym rwymedigaethau rheoliadol iddynt; 
  • gan asiantaethau a sefydliadau atal a chanfod twyll;
  • gan ein darlledwyr, er enghraifft S4C. 

Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth?

Dim ond pan fydd gennym sail gyfreithiol dros wneud hynny y byddwn ni a’n trydydd partïon awdurdodedig yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r seiliau cyfreithiol dros brosesu yn wahanol yn dibynnu ar ba rai o’n cynhyrchion a’n gwasanaethau rydych chi’n eu defnyddio. Yn gyffredinol, dim ond ar y seiliau canlynol y byddwn yn prosesu’ch data:

  • cyflawni ein cytundeb gyda chi: Lle mae angen defnyddio’ch gwybodaeth i gyflawni ein cytundeb(au) gyda chi, er enghraifft lle mae angen i ni brosesu’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei chyflwyno gyda’ch cais am gystadleuaeth er mwyn i ni allu rhedeg y gystadleuaeth honno
  • rydych wedi rhoi caniatâd ar gyfer y prosesu. Pan fyddwn yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu eich gwybodaeth bersonol, mae gennych bob amser yr hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ôl. Er enghraifft, eich galluogi i gyflwyno lluniau, fideos a sylwadau i ni 
  • at ddibenion ein buddiannau cyfreithlon: Lle bo angen defnyddio’ch gwybodaeth at ddibenion ein buddiannau cyfreithlon (neu fuddiannau trydydd parti). Dim ond ar y sail gyfreithiol hon yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth lle rydym wedi ystyried, ar ôl pwyso a mesur, nad yw ein buddiannau, eich hawliau sylfaenol na’ch rhyddid yn gorbwyso ein buddiannau cyfreithlon. 
  • mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol a roddir i Boom Cymru (er enghraifft ein rhwymedigaeth i sicrhau bod y data sydd gennym yn gywir) Er enghraifft, cyhoeddi manylion enillydd cystadleuaeth / gwobrau Boom Cymru

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol fel a ganlyn: 

  • Yn fewnol: Caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio gan ein gweithwyr, contractwyr a staff sy’n gweithio ar y gystadleuaeth, neu’r rhaglen lle mae’r UGC yn cael ei ddarlledu neu y gellir ei ddarlledu ynddo. Dim ond ar sail angen-gwybod y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio a, lle bo angen, gellir ei rhannu’n fewnol â’n timau eraill (megis Cyfreithiol a Materion Busnes). 
  • Gyda chwmnïau grŵp ITV Plc eraill: er enghraifft, y rhai sy’n gyfrifol am Gydymffurfiaeth, Seiber-ddiogelwch, Preifatrwydd ac ati
  • Gyda’n cyflenwyr ac eraill: Lle bo angen, gellir rhannu’ch gwybodaeth bersonol gyda’n darlledwyr, partneriaid, cyflenwyr, archwilwyr ac / neu asiantau i weinyddu’r cystadlaethau a chynhyrchu / cyflwyno ein rhaglenni. Caniateir i’r trydydd partïon hyn gael mynediad i’ch gwybodaeth yn ôl yr angen i ddarparu gwasanaethau i ni. Ni chaniateir iddynt ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas arall.
  • Gyda’r heddlu, cyrff rheoleiddio neu gynghorwyr cyfreithiol: mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd honedig, gweithgaredd anghyfreithlon neu amheuaeth o dorri’r Telerau Defnyddio a / neu dorri telerau ac amodau eraill neu fel arall lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu lle rydym yn amau niwed neu niwed posib i eraill. Byddwn yn cydweithredu gydag unrhyw awdurdodau gorfodaeth cyfraith neu orchymyn llys yn gofyn neu’n ein cyfarwyddo i ddatgelu hunaniaeth neu leoliad neu unrhyw wybodaeth arall am unrhyw un sy’n torri unrhyw delerau ac amodau perthnasol neu fel arall ar gyfer atal neu ganfod trosedd neu ddal neu erlyn troseddwyr.
  • ar lwyfannau ar-lein: lle bo hynny’n berthnasol, gellir cyhoeddi rhai manylion amdanoch ynghyd â’ch UGC ar lwyfannau ar-lein. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu manylion amdanoch chi ar lwyfannau ar-lein os ydych chi’n enillydd un o’n cystadlaethau. 
  • os oes newidiadau i’n busnes (gweler yr adran “Newidiadau i’n busnes” yn ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol ar “Newidiadau i’n busnes“)
  • i unrhyw drydydd parti arall lle rydych wedi rhoi eich caniatâd.

Pa mor hir y byddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth?

Rydym yn cadw’ch gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bo angen, sy’n hirach mewn rhai achosion nac mewn eraill. Mae hyd y cyfnod cadw hwn yn dibynnu ar y pwrpas y cafwyd y data ar ei gyfer a natur y data.

  • mae angen i ni gadw rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch chi er mwyn i ni allu delio ag unrhyw gwynion y gallech chi eu gwneud am y cynhyrchion a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i chi;
  • mae angen i ni gadw gwybodaeth bersonol fel y gallwn amddiffyn hawliadau cyfreithiol posibl yn y dyfodol. Oni bai bod rhyw reswm arall dros ei gadw, bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu pan na allai hawliad o’r fath godi mwyach neu pan nad oes ei angen mwyach er mwyn amddiffyn hawliadau cyfreithiol sydd wedi codi;
  • mae gennym ddyletswydd gyfreithiol neu reoleiddiol i gadw gwybodaeth bersonol benodol am isafswm cyfnod penodol (er enghraifft o dan reolau Ofcom, neu o dan reolau treth Cyllid a Thollau).

Beth yw eich hawliau?

Os hoffech wybod mwy am eich hawliau, yna gwelwch i’r adran Preifatrwydd  https://www.boomcymru.co.uk/polisiau-preifatrwydd-boom-cymru/ar ar ein gwefan ac i dudalen rhybudd preifatrwydd cyffredinol yma: https://www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd-boom-cymru/ 

Rheolwr data

Mae Boom Cymru TV Cyf yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (rhif cofrestredig 2936337) gyda swyddfa gofrestredig yn Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd.  CF10 4GA.  Ein rhif cofrestru TAW yw 135 6006 38

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) sy’n rheoleiddio ein prosesu o’ch gwybodaeth bersonol. Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i SCG. Gellir gweld manylion sut i gysylltu â SCG ar eu gwefan yn www.ico.org.uk.

Os ydych chi am gysylltu â ni ynglŷn â’n hysbysiad preifatrwydd neu gydag unrhyw ymholiadau preifatrwydd, anfonwch e-bost atom at gdpr@boomcymru.co.uk.

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV