Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd

Cyflwyniad

Mae eich gwybodaeth yn hynod o bwysig i ni, ac rydym yn ei warchod yn ofalus iawn, yn unol â chyfreithiau preifatrwydd a diogelu data, gan gynnwys y Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol ac unrhyw ddeddfwriaeth y DU berthnasol. Nodir isod y math o wybodaeth a gasglwn amdanoch a’ch hawliau fel gwrthrych data.

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd hwn yn disgrifio’r categorïau o wybodaeth bersonol y gallwn eu prosesu, sut y gellir prosesu’ch gwybodaeth bersonol a sut mae’ch preifatrwydd yn cael ei ddiogelu yn ystod ein perthynas gyda chi. Y bwriad yw cydymffurfio â’n rhwymedigaethau i roi gwybodaeth i chi am y modd mae’r Cwmni’n prosesu’ch gwybodaeth bersonol o dan y cyfreithiau preifatrwydd. Nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gontract rhyngom â chi.

Efallai y byddwn yn diweddaru’r Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd hwn o bryd i’w gilydd. Byddwn yn postio unrhyw newidiadau ar wefan ein cwmni, felly mae’n syniad da dod yn ôl a’u darllen eto, o dro i dro. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar y 25ain o Fai 2018.

Mae’r Cwmni yn ymrwymedig i ddiogelu’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu gyda ni. Er mwyn ategu hynny, rydym wedi cymryd mesurau technegol, corfforol a sefydliadol priodol i sicrhau bod lefel y diogelwch yn briodol i’r risg.

Manylion pellach ynglŷn â’r Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd:

  • Pwy yw’r Cwmni?
  • Sut mae’r Cwmni yn casglu data?
  • Pa wybodaeth mae’r cwmni’n ei brosesu ac am ba reswm?
  • Pwy sydd â hawl gweld fy nata?
  • Ble caiff fy nata ei drosglwyddo?
  • Am ba hyd mae’r Cwmni yn cadw fy nata?
  • Pa hawliau sydd gennyf a sut gallaf eu defnyddio?

Pwy yw’r Cwmni?

Mae unrhyw gyfeiriad at “ni”, “ein”, a’r “Cwmni” yn cyfeirio at grŵp cwmnïau Boom Cymru TV. Fe’n gelwir yn “reolwr data”. Gallwch gysylltu â ni yn GDPR@Boomcymru.co.uk os ydych am gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r modd yr ydym yn prosesu eich data, gan gynnwys sut i ymarfer eich hawliau fel testun data.

Y Cwmni (neu gwmni cysylltiedig perthnasol y Cwmni a nodwyd yn eich contract cyflogaeth) fydd rheolwr data eich data personol. Yn ogystal, pan fo prosesu data personol yn cael ei wneud gan gwmnïau cysylltiedig eraill y Cwmni am eu dibenion annibynnol eu hunain, efallai y bydd y cwmnïau cysylltiedig hyn hefyd yn rheolwyr eich data personol.

Sut mae’r Cwmni yn casglu data?

Mae’r Cwmni yn casglu a chofnodi eich gwybodaeth bersonol o amrywiol ffynonellau, ond yn bennaf yn uniongyrchol oddi wrthych chi. Fel rheol, byddwch yn darparu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol i’n systemau, trwy’r broses recriwtio.

Yn ogystal, efallai y bydd gwybodaeth bellach amdanoch yn dod gan asiantaethau recriwtio neu drydydd partïon eraill, er enghraifft, geirdaon gan gyflogwr blaenorol, adroddiadau meddygol gan weithwyr proffesiynol allanol, awdurdodau treth, darparwyr budd-dal neu ble rydym yn cyflogi trydydd parti i gynnal gwiriad cefndir (lle y caniateir hynny dan y gyfraith berthnasol).

Pan fyddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol i ni yn orfodol, byddwn yn eich hysbysu o hyn wrth ei gasglu ac os bydd angen y wybodaeth benodol yn ôl y contract neu’r statud, bydd hyn yn cael ei nodi. Bydd methu â darparu unrhyw wybodaeth orfodol yn golygu na allwn gyflawni prosesau AD penodol, er enghraifft, ac efallai na fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â’ch cais.

Pa wybodaeth mae’r Cwmni yn ei brosesu a pham?

Mae gwybodaeth bersonol yn golygu unrhyw wybodaeth sy’n disgrifio neu’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy, megis enw, cyfeiriad, oedran, manylion cyswllt, gwerthusiadau, data iechyd ac ati. Mae gwybodaeth ychwanegol yr ydym yn ei brosesu ar weithwyr yn cynnwys:

  • Enw a manylion cyswllt
  • Gwybodaeth hawl i weithio
  • Hanes cyflogaeth, cymwysterau a CV
  • Data cyfweliad ac asesiad
  • Gwybodaeth fetio a gwirio
  • Data amrywiaeth (megis ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol)
  • Cofnod troseddol, lle bo angen ac yn ddarostyngedig i ddeddfau perthnasol.

Defnyddir y data personol hwn i brosesu eich cais am swydd ac i wneud penderfyniad ynglŷn â’ch ymgeisyddiaeth am rôl benodol, gan gynnwys p’un ai i’ch rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cynnal unrhyw gyfweliad a phroses ddethol ac, os yw eich cais yn llwyddiannus, prosesu cynnig cyflogaeth.

Mae achlysuron lle byddwn yn derbyn gwybodaeth (eich hawl i weithio, manylion cyswllt a hanes cyflogaeth) gan gyflenwyr trydydd parti fel asiantaethau recriwtio, y byddwn yn eu defnyddio i brosesu eich cais am swydd benodol.

Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth ble byddwch yn nodi eich bod yn berson anabl, fel y cydnabyddir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, byddwn yn defnyddio’ch data i sicrhau bod pob ymgeisydd sydd ag anabledd, sy’n bodloni gofynion sylfaenol y rôl, yn cael ei wahodd / gwahodd i gael cyfweliad yn unol gyda’n statws fel cyflogwr Hyderus O Ran Anabledd, gan wneud unrhyw addasiadau rhesymol i’r broses recriwtio. Am ragor o wybodaeth am y cynllun hwn, cliciwch yma.

Categorïau Arbennig o Wybodaeth Bersonol

I’r graddau y caniateir gan y cyfreithiau perthnasol, gall y Cwmni hefyd gasglu a phrosesu swm cyfyngedig o wybodaeth bersonol sy’n disgyn i gategorïau arbennig, a elwir weithiau’n “ddata personol sensitif”. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â materion fel tarddiad hiliol neu ethnig, credoau crefyddol, iechyd corfforol neu feddyliol (gan gynnwys manylion am addasiadau), cyfeiriadedd rhywiol, cofnodion troseddol a gwybodaeth ynglŷn â throseddau neu achosion cyfreithiol.

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei phrosesu lle mae cyfraith diogelu data yn caniatáu hyn yn unig, gan ddefnyddio cyfiawnhad cyfreithlon penodol, ar un o’r seiliau canlynol lle bo’r brosesu yn angenrheidiol:

  • lle rhoddwyd caniatâd penodol
  • lle mae’r prosesu yn angenrheidiol;
    • at ddibenion cyflawni’r rhwymedigaethau ac arfer eich hawliau chi neu’r hawliau’r Cwmni ym maes cyfraith cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a chyfraith amddiffyn cymdeithasol, i’r graddau y caniateir hynny o dan gyfreithiau perthnasol;
    • at ddibenion asesu eich gallu i weithio;
    • i amddiffyn eich buddiannau hanfodol chi neu berson arall lle nad ydych chi’n gallu rhoi caniatâd yn gorfforol neu’n gyfreithiol (er enghraifft mewn argyfyngau eithriadol, megis argyfwng meddygol); neu
    • ar gyfer sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu at ddibenion nodi neu adolygu bodolaeth neu absenoldeb cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal rhwng grwpiau o bobl a bennir mewn perthynas â’r categori hwnnw, a hynny er mwyn galluogi cydraddoldeb o’r fath i gael ei hybu neu ei gynnal.

Efallai y byddwn yn gofyn am eich caniatâd i brosesu penodol na ellir ei gyfiawnhau fel arall ar un o’r seiliau uchod. Os oes angen caniatâd ar gyfer y prosesu dan sylw, byddwn yn gofyn amdano yn uniongyrchol oddi wrthych i sicrhau ei fod yn cael ei roi’n rhydd, yn wybodus ac yn eglur. Bydd gwybodaeth am brosesu o’r fath yn cael ei darparu i chi ar yr adeg y gofynnir am ganiatâd, ynghyd ag effaith gwrthod rhoi caniatâd o’r fath.

Dylech fod yn ymwybodol nad yw’n amod nac yn ofyniad o’ch cyflogaeth i gytuno i unrhyw gais am ganiatâd a wneir gan y Cwmni.

Pan roddir caniatâd, gallwch ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg;

Bydd Gwybodaeth Bersonol sy’n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau yn cael ei brosesu dim ond lle bo’n cael ei awdurdodi gan gyfreithiau perthnasol, er enghraifft. Mewn rhai achosion cyfyngedig, ac yn dibynnu ar natur y rôl yr ydych chi’n gwneud cais amdani, gellir cynnal gwiriad cofnod troseddol ar adeg recriwtio, lle caiff hynny ei awdurdodi gan gyfreithiau perthnasol.

Yn gyffredinol, mae angen prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn perfformio unrhyw gontract yn y dyfodol rhyngoch chi a’r Cwmni ac er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol y mae’r Cwmni yn ddarostyngedig iddynt. Mae’r prosesu hefyd yn angenrheidiol at ddibenion diddordeb dilys y Cwmni, ac eithrio pan fo’ch buddiannau neu hawliau a rhyddid sylfaenol yn drech na buddiannau o’r fath.

Cliciwch yma am y rhestr lawn o broses sy’n defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, gan gynnwys pwrpas a sail gyfreithlon pob proses. Efallai y byddwn yn ymgymryd â phrosesu gwybodaeth bersonol benodol sy’n destun Rhybuddion Preifatrwydd ychwanegol a byddwn yn dod â’r rhain i’ch sylw lle maen nhw’n codi.

Nid ydym yn defnyddio unrhyw un o’ch gwybodaeth bersonol i wneud penderfyniadau awtomataidd.

Pwy sydd â mynediad at fy nata?

Gellir cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol neu gellir ei ddatgelu o fewn y Cwmni ar sail yr-angen-i-wybod i:

  • Aelodau’r Tîm Adnoddau Dynol;
  • Y rhai sy’n gyfrifol am reoli neu wneud penderfyniadau mewn cysylltiad â’ch perthynas â’r Cwmni neu sy’n ymwneud â’r broses AD yng nghyd-destun eich perthynas chi â’r Cwmni;
  • Gweinyddwyr systemau a thimau cynnal a chadw system

Dim ond pan fo angen bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rannu gyda thrydydd parti. Gall hyn gynnwys Asiantaethau Recriwtio a darparwyr Prawf Seicometrig. Rydym yn defnyddio rhai darparwyr gwasanaethau trydydd parti i gyflawni rhai swyddogaethau ar y System Recriwtio (er enghraifft, anfon negeseuon e-bost atoch chi a storio’ch gwybodaeth bersonol sydd ei angen i gyflawni’r swyddogaethau hyn a darparu cymorth).

Rydym hefyd yn darparu dolenni i wefannau trydydd parti, neu apiau, widgets neu Ffrydiau RSS (e.e. o lwyfannau “cyfryngau cymdeithasol” megis Facebook neu Twitter). Efallai y bydd gan y trydydd partïon hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain a / neu delerau ac amodau defnyddio. Rydym yn argymell eich bod yn darllen y rhain cyn defnyddio unrhyw wasanaethau o’r fath.

Noder hefyd fod rhai tudalennau a gwasanaethau a ddarperir ar y Wefan yn cael eu cynnal, eu rheoli a’u gweithredu gan drydydd parti.

Ni chaiff eich gwybodaeth bersonol ei ddefnyddio na’i drosglwyddo i drydydd parti ar gyfer marchnata neu unrhyw ddibenion eraill heblaw’r rhai a grybwyllwyd eisoes.

Gellir rhannu gwybodaeth bersonol hefyd â rhai systemau rhyng-gysylltu AD. Gall darparwyr y systemau hynny, eu cwmnïau cysylltiedig â’u hisgontractwyr gael mynediad i’r data a gynhwysir mewn systemau o’r fath. Yn ogystal, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol gydag awdurdodau cenedlaethol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo. Dyma’r sefyllfa, er enghraifft, o fewn y fframwaith o achos cyfreithiol sydd ar fin digwydd neu yn wyneb archwiliad statudol.

I ble y trosglwyddir fy nata?

Mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu’n bennaf o fewn Ardal Economaidd Ewrop (AEE), ond o bryd i’w gilydd, bydd eich gwybodaeth bersonol (gan gynnwys categorïau arbennig o wybodaeth bersonol) yn cael ei throsglwyddo mewn mannau eraill o’r byd i gwmnïau grŵp ITV neu drydydd parti i’w brosesu, at y dibenion a ddisgrifir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd hwn. Mae gan ITV gwmnïau grŵp o fewn yr AEE a hefyd yn Hong Kong, Awstralia ac UDA.

Mae cynnal a chadw TG a chymorth digwyddiadau ar gyfer rhai o systemau ITV yn cael ei gontractio allan i gwmni yn India. Mae gan eu staff cymorth fynediad gweinyddol ac maent yn gallu cael gafael ar ddata ac maent hefyd yn defnyddio adnoddau o diriogaethau eraill, gan gynnwys yr Ariannin, Canada ac UDA i ddatrys materion cyn gynted â phosib. Rheolir mynediad trwy offeryn rheoli mynediad breintiedig a gall ITV ei ddirymu ar unrhyw adeg.

O ganlyniad, mae’n bosib y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei drosglwyddo i wledydd y mae eu deddfau diogelu data yn llai llym na’ch un chi. Os yw hyn yn wir, bydd y Cwmni yn sicrhau bod mesurau diogelu priodol neu addas ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a bod ei drosglwyddiad yn cydymffurfio â’r cyfreithiau diogelu data perthnasol.

Pan fo’n ofynnol o dan y gyfraith diogelu data perthnasol, bydd y Cwmni yn sicrhau bod darparwyr gwasanaethau (gan gynnwys cwmnïau eraill sy’n gysylltiedig â’r Cwmni) yn arwyddo cymalau cytundebol safonol fel y’u cymeradwyir gan y Comisiwn Ewropeaidd neu awdurdod goruchwylio arall sydd ag awdurdod dros yr allforiwr Cwmni perthnasol. Os hoffech gael copi o unrhyw gymalau cytundebol safonol sydd ar waith sy’n ymwneud â throsglwyddiadau eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â GDPR@Boomcymru.co.uk

Am ba hyd mae’r Cwmni yn cadw fy nata?

Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol am y cyfnod hwnnw o amser ble mae ei angen ar gyfer y dibenion y cafodd ei gasglu, gan gadw’r wybodaeth mor gyfoes â phosib a sicrhau bod data amherthnasol neu ormodol yn cael ei ddileu neu ei wneud yn anhysbys cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

Am ba hyd mae’r Cwmni yn cadw fy nata?

Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol am y cyfnod hwnnw o amser ble mae ei angen ar gyfer y dibenion y cafodd ei gasglu, gan gadw’r wybodaeth mor gyfoes â phosib a sicrhau bod data amherthnasol neu ormodol yn cael ei ddileu neu ei wneud yn anhysbys cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

Pa hawliau sydd gennyf a sut gallaf eu defnyddio?

Yn llygad y gyfraith, chi yw’r ‘Pwnc Data’ ac mae gennych nifer o hawliau y gallwch chi eu defnyddio dros eich data, fel yr hawl i gael mynediad at, i gywiro, ac i ofyn am ddileu eich gwybodaeth bersonol. O’r 25ain o Fai 2018 mae gennych rai hawliau ychwanegol, e.e. cludadwyedd data, cyfyngu’r prosesu neu wrthwynebu iddo pe bai wedi’i wneud dan ddiddordeb dilys.

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwyliol, yn enwedig yn eich gwlad breswyl (e.e. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y DU), os ydych o’r farn bod prosesu eich gwybodaeth bersonol yn torri cyfraith berthnasol.

Darllenwch fwy isod am eich hawliau a sut i’w defnyddio neu cysylltwch â GDPR@boomcymru.co.uk

Mynediad i’m data

Gallwch ofyn am gael mynediad at y wybodaeth sydd gennym arnoch chi a byddwn hefyd yn dweud wrthych chi:

  • pam rydym yn ei brosesu;
  • gyda phwy yr ydym yn ei rannu ac os oes unrhyw wybodaeth yn cael ei drosglwyddo i wlad nad yw’n cael ei ystyried fel bod ganddo amddiffyniadau digonol ar gyfer data personol;
  • pa mor hir fyddwn yn cadw eich data;
  • ffynhonnell y wybodaeth, os na chaglwyd ef yn uniongyrchol oddi wrthych chi;
  • os ydym yn defnyddio’ch data ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.

Os ydych yn gwneud cais am gopi o’ch data personol yr ydym yn ei brosesu, byddwch mor benodol â phosib os gwelwch yn dda, gan y bydd hyn yn ein helpu ni i ganfod yr wybodaeth yn gyflymach a rhoi copi i chi heb unrhyw oedi gormodol.

Cywiro gwallau

Os ydych chi’n teimlo bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, gallwch ofyn i ni ei gywiro neu ei ddiweddaru.

Yr hawl i gael eich anghofio

Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu’ch gwybodaeth, er na fyddai hynny’n bosibl bob tro os yw gwneud hynny yn golygu na allwn gyflawni ein contract gyda chi, neu ble mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol neu ddiddordeb cyfreithlon i gadw’r data. Byddwn yn esbonio canlyniadau dileu’ch data.

Cyfyngu’r prosesu

Os ydych chi’n teimlo ein bod yn prosesu’ch gwybodaeth yn anghyfreithlon neu â data anghywir, gallwch ofyn i ni gyfyngu’r prosesu. Pan fo gwybodaeth bersonol yn destun cyfyngiad yn y modd hwn, dim ond gyda’ch caniatâd y byddwn yn ei brosesu neu ar gyfer sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol oni bai bod gennym eich caniatâd. Os yw’r prosesu wedi ei gyfyngu, byddwn yn parhau i storio’r data.

Gwrthwynebu’r Prosesu

Os ydych yn anghytuno ag unrhyw fudd neu fuddiant cyhoeddus dilys yr ydym wedi dibynnu arno i brosesu eich data, gallwch wrthwynebu’r prosesu. Yna byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu’r data oni bai ein bod yn gallu dangos sail gyfreithiol gadarn sy’n trechu eich hawliau, neu fod rhaid prosesu’r data er mwyn sefydlu neu amddiffyn hawliad cyfreithiol.

Hygludedd Data

Mae’r data a roesoch i ni yn gludadwy, fel y gallwch ofyn am ei dderbyn mewn fformat a ddefnyddir yn gyffredin a gofyn am ei drosglwyddo i reolwr data arall. Rydym wedi cynhyrchu fformat safonol o ddata gweithwyr a ddefnyddir yn gyffredin at y diben hwn.

Gwneud cwyn

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich data a chynnal eich hawliau, ond os ydych chi’n teimlo nad ydym wedi gwneud hynny, cysylltwch â ni GDPR@Boomcymru.co.uk. Yn ogystal, mae gennych yr hawl i gwyno i’r awdurdod goruchwylio perthnasol, sef Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) un y DU.

Cysylltwch â GDPR@Boomcymru.co.uk os ydych am gael unrhyw wybodaeth ychwanegol am yr hyn a welwch uchod neu os hoffech esboniad pellach o’ch hawliau.

Pwy yw’r Cwmni? Rhagor o wybodaeth…

Cofrestrwyd Boom Cymru TV Limited yn Lloegr (Rhif y Cwmni: 02936337) a’i swyddfa gofrestredig yw: GloWorks, Porth Teigr Way, Caerdydd CF10 4GA. Mae grŵp o gwmnïau Boom Cymru yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, y cwmnïau canlynol a allai roi contract cyflogaeth i chi:

  • Gorilla TV Limited

Cofrestrwyd yn Lloegr o dan y rhif 03776018

Swyddfa Gofrestredig: GloWorks, Porth Teigr Way, Caerdydd CF10 4GA

  • Bait Studio Limited

Cofrestrwyd yn Lloegr o dan y rhif 05991179

Swyddfa Gofrestredig: GloWorks, Porth Teigr Way, Caerdydd CF10 4GA

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) at GDPR@boomcymru.co.uk.

Mae Boom Cymru TV Limited wedi ei gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel rheolwr data (rhif cofrestru: Z9940465). Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ICO www.ico.org.uk

Mae cwmnïau eraill yng Ngrŵp Boom Cymru wedi’u cofrestru gyda’r ICO lle bo’n angenrheidiol.

Prosesau Ymgeisydd

Cyf Pwrpas prosesu Angenrheidiol ar gyfer Perfformiad Cytundeb Angenrheidiol i gydymffurfio

â Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Diddordeb

Dilys

Beth yw Diddordeb Dilys y Cwmni?
a) Recriwtio a dethol Y Y Y Mae’r Cwmni yn credu fod diddordeb dilys mewn asesu’n llawn geisiadau am gyflogaeth i sicrhau mai dim ond ymgeiswyr addas a phriodol sy’n cael eu hasesu a’u dethol, fel bod y Cwmni yn canfod y bobl iawn ar gyfer ei fusnes a fydd yn gallu cyfrannu at ei weithrediadau ac i’r diwylliant.
b) Archwilio priodol ar gyfer recriwtio a dyrannu tîm, gan gynnwys, lle mae gwiriadau credyd perthnasol a phriodol yn bosib, dilysu hawl i weithio, gwiriadau twyll hunaniaeth, gwiriadau cofnod troseddol (i’r graddau sy’n cael eu caniatáu o dan y gyfraith berthnasol), hanes cyflogaeth berthnasol, statws rheoliadol perthnasol a chymwysterau proffesiynol; Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth reoli ei weithrediadau busnes yn y modd mwyaf effeithiol ac mae angen iddo wneud penderfyniadau yn ymwneud â dyfodol ei fusnes er mwyn gwarchod ei weithrediadau busnes neu i dyfu ei fusnes, gan gynnwys buddiannau’r gweithlu yn gyffredinol a chwsmeriaid craidd y Cwmni. Mae hyn yn cynnwys asesu ceisiadau llawn ar gyfer cyflogaeth i sicrhau mai dim ond ymgeiswyr addas a phriodol sy’n cael eu hasesu a’u dethol.
c)
e) Monitro ymgeiswyr i sicrhau cyfle cyfartal ac amrywiaeth o ran nodweddion personol a ddiogelir o dan y deddfau gwrthwahaniaethu sy’n berthnasol; Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys i sicrhau ei fod yn cymryd camau i atal gwahaniaethu a hyrwyddo gweithle cynhwysol ac amrywiol.
f) Adrodd – Cadw gwybodaeth ymgeiswyr at ddibenion adrodd yn fewnol ac yn allanol er mwyn sicrhau ein bod yn recriwtio mewn ffordd deg, dryloyw ac i sicrhau ein bod yn amrywiol. Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys fod ei weithlu yn adlewyrchu cyfansoddiad amrywiol y gymdeithas fodern.

Applicant retention schedule

Categori Math o gofnod Cyfnod Cadw
Gwybodaeth am gais am swydd a rolau yn ITV yn y dyfodol Y gallu i weithio yn y DU, Ystod cyflog, Teitl, Enw Cyntaf, Enw olaf, Cyfeiriad, Preswyl, Rhifau Cyswllt, Cyfeiriad E-bost, CV neu Broffil Linkedin, Ffynhonnell. Profiad Gwaith ac Addysg yn ddewisol.

Data Amrywiaeth (Anabledd, Ethnigrwydd, Rhyw ac ati)

Chwe mis wedi’r dyddiad cau

am geisiadau

Gwybodaeth cyfweliad CVs, canlyniadau profion a dogfennau penderfyniadau cyfweliad ymgeiswyr

Gwiriadau cefndir / Datgelu a Gwahardd (DBS) – troseddau, achosion a dedfrydau lle bo angen hynny yn ôl y gyfraith / ble ceir caniatâd cyfreithiol neu lle mae’r gweithiwr wedi cydsynio (er mwyn amddiffyn diogelwch a diogelwch staff a chwsmeriaid, neu at ddibenion yswiriant)

Gwiriadau Hawl i Waith / Mewnfudo (dogfennaeth sy’n ofynnol at ddibenion mewnfudo – e.e. i brofi dinasyddiaeth, manylion preswyliaeth, trwydded waith)

Chwe mis wedi’r dyddiad cau

am geisiadau

Special category data

Cyf Pwrpas prosesu Sail gyfreithlon
a) Asesu ac adolygu cymhwyster i weithio i’r Cwmni yn yr awdurdodaeth yr ydych yn gweithio ynddo. Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol:

● Ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol y mae’r Cwmni yn ddarostyngedig iddynt.

● At ddibenion buddiannau dilys a ddilynir gan y Cwmni. Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys yn (i) cydymffurfio â phob rhwymedigaeth cyfraith mewnfudo berthnasol, boed o fewn yr AEE neu fel arall; a (ii) asesu’n llawn geisiadau am gyflogaeth i sicrhau mai dim ond ymgeiswyr addas a phriodol sy’n cael eu hasesu a’u dewis.

● at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau ac arfer eich hawliau chi neu’r Cwmni ym maes cyfraith cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a chyfraith diogelu cymdeithasol, i’r graddau a ganiateir o dan gyfreithiau perthnasol.

b) Casglu data ystadegol yn ddarostyngedig i ddeddfau lleol, neu lle bo angen cofnodi nodweddion o’r fath i gydymffurfio â gofynion cydraddoldeb ac amrywiaeth y ddeddfwriaeth leol berthnasol, neu i gadw ymrwymiad y Cwmni i gyfle cyfartal dan adolygiad. Mae’r Cwmni o’r farn fod ganddo ddiddordeb dilys wrth sicrhau ei fod yn cymryd camau i atal gwahaniaethu a hyrwyddo gweithle cynhwysol ac amrywiol.

Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol ar gyfer (i) dibenion cyflawni’r rhwymedigaethau ac arfer eich hawliau chi neu’r Cwmni ym maes cyfraith cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a chyfraith diogelu cymdeithasol, i’r graddau y caniateir hynny o dan y cyfreithiau perthnasol a (ii) pwrpas adnabod neu adolygu bodolaeth neu absenoldeb cyfle cyfartal rhwng grwpiau penodol o bobl mewn perthynas â’r categori hwnnw gyda’r bwriad o alluogi cydraddoldeb o’r fath i gael ei hyrwyddo neu ei gynnal.

c) Gwneud addasiadau rhesymol ac osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon neu ddelio â chwynion sy’n codi yn hyn o beth. Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau ac arfer eich hawliau chi neu’r Cwmni ym maes cyfraith cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a chyfraith diogelu cymdeithasol, i’r graddau y caniateir o dan gyfreithiau perthnasol.

I’r graddau y rheolir y data hwn gan ein cynghorwyr iechyd galwedigaethol neu ddarparwyr trydydd parti. Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol er mwyn asesu unrhyw addasiadau sy’n ofynnol drwy’r broses recriwtio a / neu ofynion gwaith.

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV