Hysbysiad Preifatrwydd Gweithiwr Llawrydd

Cyflwyniad

Mae eich gwybodaeth yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn ei warchod yn ofalus iawn, yn unol â chyfreithiau preifatrwydd a diogelu data, gan gynnwys y Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol ac unrhyw ddeddfwriaeth y DU berthnasol. Nodir isod y math o wybodaeth a gasglwn amdanoch a’ch hawliau fel gwrthrych data.

 

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd Gweithiwr Llawrydd hwn, sydd ar gyfer gweithwyr llawrydd TAW (PAYE) neu bobl ar gytundebau gweithwyr llawrydd hunan gyflogedig, yn disgrifio’r categorïau o wybodaeth bersonol y gallwn eu prosesu, sut y gellir prosesu’ch gwybodaeth bersonol a sut mae’ch preifatrwydd yn cael ei ddiogelu tra rydych chi yma gyda ni. Y bwriad yw cydymffurfio â’n rhwymedigaethau i roi gwybodaeth i chi am y modd mae’r Cwmni’n prosesu’ch gwybodaeth bersonol o dan y cyfreithiau preifatrwydd. Nid yw’n ffurfio rhan o’ch contract cyflogaeth.

 

Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r Hysbysiad Preifatrwydd Cyflogai hwn o bryd i’w gilydd, a byddwn yn eich hysbysu pan  wneir unrhyw newidiadau. Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd Cyflogai hwn ar y 25ain o Fai 2018.

 

Mae’r Cwmni yn ymrwymedig i ddiogelu’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu gyda ni. Er mwyn ategu hynny, rydym wedi cymryd mesurau technegol, corfforol a sefydliadol priodol i sicrhau bod lefel y diogelwch yn briodol i’r risg. Mae ein polisïau Preifatrwydd a Diogelu Data a’n Côd Ymddygiad ar gael ar fewnrwyd y Cwmni neu trwy HR@Boomcymru.co.uk

 

Manylion pellach ynglŷn â’r Hysbysiad Preifatrwydd Cyflogai:

  • Pwy yw’r Cwmni?
  • Sut mae’r Cwmni yn casglu data?
  • Pa wybodaeth mae’r cwmni’n ei brosesu ac am ba reswm?
  • Pwy sydd â hawl gweld fy nata?
  • Ble caiff fy nata ei drosglwyddo?
  • Am ba hyd mae’r Cwmni yn cadw fy nata?
  • Pa hawliau sydd gennyf a sut gallaf eu defnyddio?

 

Pwy yw’r Cwmni?

Mae unrhyw gyfeiriad at “ni”, “ein”, a’r “Cwmni” yn cyfeirio at grŵp cwmnïau Boom Cymru TV. Fe’n gelwir yn “reolwr data”. Gallwch gysylltu â ni yn GDPR@Boomcymru.co.uk os ydych am gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r modd yr ydym yn prosesu eich data, gan gynnwys sut i ymarfer eich hawliau fel testun data. Y Cwmni (neu gwmni cysylltiedig perthnasol y Cwmni a nodwyd yn eich contract cyflogaeth) fydd rheolwr data eich data personol. Yn ogystal, pan fo prosesu data personol yn cael ei wneud gan gwmnïau cysylltiedig eraill y Cwmni am eu dibenion annibynnol eu hunain, efallai y bydd y cwmnïau cysylltiedig hyn hefyd yn rheolwyr eich data personol.

 

Sut mae’r Cwmni yn casglu data?

Mae’r Cwmni yn casglu a chofnodi eich gwybodaeth bersonol o amrywiaeth o ffynonellau, ond yn bennaf yn uniongyrchol oddi wrthych. Fel rheol, byddwch chi’n darparu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol i’r Cwmni neu i’ch cyswllt tîm cynhyrchu / prosiect trwy wneud cais am aseiniadau, neu yn ystod ein contractio, prosesau ar-lein a phrosesau talu neu negeseuon e-bost a CV yr ydych yn eu hanfon at y Cwmni yn ystod eich ymgysylltiad â chynhyrchiad neu brosiect neu CV heb ei ofyn am ymgyrchoedd posibl yn y dyfodol.

 

Yn dilyn eich ymgysylltiad â’r Cwmni, efallai y byddwch hefyd yn dewis anfon fersiynau diweddar o’ch CV atom ni o bryd i’w gilydd (“CVau Diweddaredig”).

 

Efallai y byddwn hefyd yn cael rhywfaint o wybodaeth gan drydydd partïon, er enghraifft, awdurdodau treth, darparwyr budd-dal neu ble rydym yn cyflogi trydydd parti i gynnal gwiriad cefndir (lle y caniateir gwneud hynny, yn ôl y gyfraith berthnasol) neu os oes angen sicrhau geirda fel rhan o’r broses ar gyfer cynnig aseiniadau

 

Mewn rhai amgylchiadau, gellir casglu data yn anuniongyrchol trwy ddyfeisiau monitro neu drwy ddulliau eraill (er enghraifft, systemau rheoli mynediad a monitro adeiladau a lleoliadau,  teledu cylch cyfyng (CCTV), logiau ffôn a recordiadau, logiau mynediad e-bost a’r Rhyngrwyd), i’r graddau y caniateir hynny o dan y cyfreithiau perthnasol.

 

O dan yr amgylchiadau hyn, gall y Cwmni gasglu’r data neu ddarparwr trydydd parti’r gwasanaeth perthnasol. Yn gyffredinol, ni fydd galw am weld y math hwn o ddata yn rheolaidd ond mae’r wybodaeth o fewn ein cyrraedd. Gall y Cwmni edrych ar wybodaeth gyffelyb, er enghraifft, mewn sefyllfaoedd lle mae’r Cwmni yn ymchwilio i dorri rheolau polisïau’r Cwmni megis y rhai sy’n ymwneud ag ad-dalu costau teithio a thraul, defnyddio’r system ffôn a’r Rhyngrwyd, ymddygiad gweithwyr llawrydd yn gyffredinol, neu lle mae angen y data ar gyfer cydymffurfio neu at ddibenion bilio. Gallai mynediad mwy mynych i ddata o’r fath ddigwydd yn amodol i raglen gwyliadwriaeth e-bost,  i’r graddau y caniateir hynny o dan y cyfreithiau perthnasol.

 

Pan fyddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol inni yn orfodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynny adeg y casglu. Os oes angen gwybodaeth benodol gan y contract neu’r statud, bydd hyn yn cael ei nodi. Bydd methu â darparu unrhyw wybodaeth orfodol yn golygu na allwn gyflawni’r prosesau penodol. Er enghraifft, os na fyddwch yn rhoi manylion eich banc i ni, ni fyddwn yn gallu eich talu.

 

Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn golygu na allwn barhau â’ch ymgysylltiad gan na fydd gan y Cwmni wybodaeth bersonol yr ydym o’r farn ei bod yn angenrheidiol er mwyn gweinyddu a rheoli ein perthynas â chi yn effeithiol ac yn effeithlon.

 

Ar wahân i wybodaeth bersonol amdanoch chi, efallai y byddwch hefyd yn rhoi gwybodaeth bersonol am drydydd parti i’r Cwmni, hynny yw, at ddibenion gweinyddu a rheoli, gan gynnwys cysylltu â’ch perthynas agosaf mewn argyfwng. Cyn i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol am drydydd parti o’r fath i’r Cwmni, rhaid i chi roi gwybod i’r trydydd partïon hyn am unrhyw ddata yr ydych yn bwriadu ei ddarparu i’r Cwmni i’w brosesu gan y Cwmni, fel y nodir yn y Rhybudd Preifatrwydd Gweithiwr Llawrydd hwn.

 

Pa wybodaeth a brosesir a pham?

 

Mae gwybodaeth bersonol yn golygu unrhyw wybodaeth sy’n disgrifio neu’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy, megis enw, cyfeiriad, oedran, manylion cyswllt, gwerthusiadau, data iechyd ac ati. Mae gwybodaeth ychwanegol yr ydym yn ei brosesu ar weithwyr llawrydd yn cynnwys:

 

 

Gwybodaeth Bersonol

Byddwn yn casglu rhai mathau neu bob math o wybodaeth bersonol amdanoch at y dibenion a ddisgrifir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd Cyflogai hwn, gan gynnwys:

  • Data sy’n gysylltiedig â gweithwyr llawrydd: eich teitl, enw cyntaf, enw(au) canol a chyfenw, enw genedigol, enw ffafriedig, unrhyw enwau ychwanegol, rhyw, dinasyddiaeth, ail ddinasyddiaeth, statws sifil / priodasol, dyddiad geni, oedran, manylion cyswllt cartref (ee cyfeiriad, rhif ffôn, e-bost), rhif yswiriant gwladol, nawdd cymdeithasol neu unrhyw rif adnabod cenedlaethol arall, data mewnfudo a chymhwyster i weithio, ieithoedd a siaredir; perthynas agosaf / gwybodaeth gyswllt unrhyw ddibynyddion;
  • Data sy’n gysylltiedig â’ch ymgysylltiad â’r Cwmni: manylion cyswllt gwaith (ee cyfeiriad, rhif ffôn, e-bost), lleoliad gwaith, oriau gwaith, iaith gyntaf, parth amser ac arian ar gyfer lleoliad, rhif y cyflogai a rhifau gwahanol systemau, gwybodaeth arfarnu, gwaith bywgraffiad, llinell adrodd, math o weithiwr, dyddiadau cychwyn a diwedd / hurio / contract, canolfan gost, teitl swydd a disgrifiad, oriau gwaith a phatrymau, p’un ai ydych chi’n llawn neu’n rhan amser; dyddiad terfynu terfyn / dyddiad y daw contract i ben; rheswm dros derfynu; eich diwrnod gwaith olaf; cyfweliadau ymadael, cyfeiriadau, statws (gweithredol/anweithredol/cytundeb wedi ei derfynu); rheswm dros newid swydd a dyddiad newid; dyddiad cychwyn derbyn budd-dal;
  • Data recriwtio a chyfuno talentau: cymwysterau, canolwyr, CV a ffurflen gais, data cyfweliad ac asesu, gwybodaeth fetio a gwirio;
  • Data rheoliadol; cofnodion eich cofrestriad ag unrhyw awdurdod rheoli perthnasol, eich statws rheoledig ac unrhyw gyfeiriadau rheoleiddiol;
  • Data taliad a buddion: gan gynnwys talu contract fel sy’n berthnasol, lwfansau, cynlluniau pensiwn cofrestru awtomatig, manylion cyfrif banc, lefel swyddi, rhif nawdd cymdeithasol, gwybodaeth dreth, treuliau, cyfranogiad mewn budd-daliadau a ddarperir gan drydydd partïon;
  • Gwybodaeth gwyliau: cofnodion absenoldeb (gan gynnwys dyddiadau a chategorïau o absenoldeb / amser i ffwrdd o’r gwaith), dyddiadau gwyliau;
  • Data yn ymwneud â phrosesau’r Cwmni, Y Cynhyrchiad neu’r Prosiect: archwiliadau iechyd a diogelwch, asesiadau risg, adroddiadau digwyddiadau, data sy’n ymwneud â hyfforddiant neu hyfforddiant a dderbyniwyd, taflenni ffonio, rhestrau cysylltiadau, trefnu archebion teithio a gwesty, yswiriant;
  • Monitro data (i’r graddau a ganiateir o dan y deddfau perthnasol): lluniau teledu cylch cyfyng (CCTV), cofnodion system mewngofnodi a mynediad adeiladau, cofnodion trawiadau bysellau (keystroke), lawrlwytho a phrintio a gasglwyd gan raglenni diogelwch TG a ffilteri;
  • Data hawliadau, cwynion a datgeliadau gweithwyr llawrydd – ymlymiad gweithwyr mewn adrodd am ddigwyddiadau ac mewn gwneud datgeliadau; ymchwiliadau cwynion gan neu ynglŷn â gweithwyr llawrydd
  • Cefnogi yststâd dechnolegol Boom Cymru – manylion cyswllt personol, hanes pori, data a storir ar liniaduron, manylion darparwr ISP cartref, recordio sain at ddibenion hyfforddiant a chynnal safonau
  • Data cydraddoldeb ac amrywiaeth – lle y caniateir yn ôl y gyfraith a’i ddarparu’n wirfoddol, data ynghylch ethnigrwydd, rhyw, oedran, hil, cenedligrwydd, cred grefyddol, cefndir cymunedol a thueddfryd rhywiol

 

Gellir casglu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol lle mae hyn yn angenrheidiol ac yn cael ei ganiatáu gan y gyfraith leol.

 

 

Ar gyfer prosesu eich data pensiwn, bydd Ymddiriedolwyr y cynllun pensiwn perthnasol yn anfon hysbysiad preifatrwydd ar wahân i chi i gwmpasu hyn.

 

Categorïau arbennig o wybodaeth bersonol

I’r graddau y caniateir gan gyfreithiau perthnasol, gall y Cwmni hefyd gasglu a phrosesu swm cyfyngedig o wybodaeth bersonol sy’n disgyn i gategorïau arbennig, a elwir weithiau’n “ddata personol sensitif”. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â materion megis tarddiad hiliol neu ethnig, credoau crefyddol, iechyd corfforol neu feddyliol (gan gynnwys manylion am addasu neu gymhwyso), gwybodaeth benodol am famolaeth / mabwysiadu, cyfeiriadedd rhywiol, cofnodion troseddol a gwybodaeth am droseddau neu achosion troseddol.

 

Dibenion Prosesu Data Personol

Yn gyffredinol, mae angen prosesu eich gwybodaeth bersonol i gyflawni’r contract cyflogaeth rhyngoch chi a’r Cwmni ac er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol y mae’r Cwmni yn ddarostyngedig iddynt. Mae hefyd angen prosesu data personol at ddibenion y buddiannau dilys a ddilynir gan y Cwmni, ac eithrio pan fo’ch buddiannau neu hawliau a rhyddid sylfaenol chi yn drech na dibenion o’r fath.

 

Mae’r prosesu hwn hefyd yn ein galluogi i ddarparu amryw fuddion i chi gwyliau statudol, asesiad cofrestru awtomatig a didyniadau ac, os yw’n berthnasol i’ch rôl, tâl salwch statudol); i reoli a gweinyddu eich ymgysylltiad; ac i’ch ystyried am ymrwymiadau o fewn y Cwmni yn y dyfodol.

 

 

Gweler y rhestr gyflawn o brosesau sy’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys pwrpas a sail gyfreithlon pob proses. Efallai y byddwn yn ymgymryd â phrosesu gwybodaeth bersonol benodol sy’n destun Rhybuddion Preifatrwydd ychwanegol. Byddwn yn tynnu’ch sylw at rain lle maen nhw’n codi.

 

Bydd agweddau o’n prosesu yn cynnwys categorïau arbennig o wybodaeth sensitif, fel y disgrifir uchod. Bydd y wybodaeth yma yn cael ei phrosesu ble mae cyfraith diogelu data yn caniatáu hyn, gan ddefnyddio cyfiawnhad cyfreithlon penodol, ar un o’r seiliau canlynol lle bo’r prosesu yn angenrheidiol:

 

  • Ble rhoddwyd caniatâd penodol
  • Lle mae’r prosesu’n angenrheidiol;
    • At ddibenion cyflawni rhwymedigaethau ac arfer eich hawliau chi neu hawliau’r Cwmni ym maes cyfraith cyflogaeth, (gan gynnwys cyfreithiau sydd hefyd yn berthnasol i weithwyr) o dan y gyfraith amddiffyn gymdeithasol, i’r graddau y caniateir gwneud hynny o dan y cyfreithiau perthnasol;
    • At ddibenion meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu eich gallu gweithredol, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu gymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, i’r graddau y caniateir hynny dan gyfreithiau perthnasol;
    • I amddiffyn eich buddiannau hanfodol chi neu berson arall, lle nad ydych chi’n gallu rhoi caniatâd yn gorfforol neu’n gyfreithiol (er enghraifft, mewn sefyllfaoedd o argyfwng eithriadol, megis argyfwng meddygol);
    • Ar gyfer sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol;
    • At ddibenion nodi neu adolygu bodolaeth neu absenoldeb cyfle cyfartal neu driniaeth rhwng grwpiau penodol o bobl mewn perthynas â’r categori hwnnw gyda’r bwriad o’i gwneud yn bosibl i gydraddoldeb o’r fath gael ei hyrwyddo neu ei gynnal.

 

Rhai enghreifftiau o brosesu gan ddefnyddio categorïau arbennig o wybodaeth sensitif

 

Efallai y byddwn yn gofyn am eich caniatâd i brosesu penodol na ellir ei gyfiawnhau fel arall ar un o’r seiliau uchod. Os oes angen caniatâd ar gyfer y prosesu dan sylw, byddwn yn gofyn amdano yn uniongyrchol oddi wrthych i sicrhau ei fod yn cael ei roi’n rhydd, yn wybodus ac yn eglur. Bydd gwybodaeth am brosesu o’r fath yn cael ei darparu i chi ar yr adeg y gofynnir am ganiatâd, ynghyd ag effaith gwrthod rhoi caniatâd o’r fath.

 

Dylech fod yn ymwybodol nad yw’n amod nac yn ofyniad o’ch ymgysylltiad i gytuno i unrhyw gais am ganiatâd a wneir gan y Cwmni. Pan roddir caniatâd, gallwch ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, ond ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw sail gyfreithlon arall y mae’r Cwmni’n dibynnu arno ar gyfer prosesu.

 

Bydd gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau yn cael ei phrosesu lle caiff ei awdurdodi gan gyfreithiau perthnasol yn unig, er enghraifft:

  • Gellir cynnal gwiriad cofnodion troseddol ar recriwtio neu drosglwyddiad, lle bo’n cael ei ganiatáu gan gyfreithiau perthnasol;
  • Gellir prosesu cyhuddiad o drosedd neu euogfarn sy’n codi yn ystod eich perthynas â’r Cwmni lle bo angen neu ble caiff ei awdurdodi. Er enghraifft, lle mae gennym ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol i adrodd am drosedd, neu ble mae deddfau perthnasol yn awdurdodi’r Cwmni i brosesu gwybodaeth am y drosedd er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’ch perthynas â’r Cwmni.

 

Pwy sydd â mynediad at fy nata?

Gellir caniatáu mynediad at neu ddatgeliad o’ch gwybodaeth bersonol o fewn y Cwmni ar sail yr-angen-i-wybod i:

  • Timau cynhyrchu, talent neu dimau prosiect a rheolwyr llogi sy’n ymwneud â’ch ymgysylltiad cyfredol neu ymrwymiadau posibl yn y dyfodol
  • Aelodau’r Tîm Adnoddau Dynol;
  • Y rhai sy’n gyfrifol am reoli neu wneud penderfyniadau mewn cysylltiad â’ch perthynas â’r Cwmni neu sy’n ymwneud â phroses mewn cysylltiad â’ch perthynas chi â’r Cwmni;
  • Gweinyddwyr systemau a thimau cynnal a chadw system o fewn y Cwmni megis Cyllid, Technoleg, Systemau Adnoddau Dynol, Timau Adrodd.
  • Yswiriant / iechyd a diogelwch / materion cyfreithiol a busnes / at ddibenion amserlennu

 

Gall gwybodaeth bersonol sylfaenol benodol, fel eich enw, lleoliad, teitl swydd, gwybodaeth gyswllt ac unrhyw sgiliau a phrofiad cyhoeddedig hefyd fod ar gael i weithwyr eraill trwy fewnrwyd y Cwmni.

 

Dim ond pan fo angen y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rannu gyda thrydydd parti, e.e. darparwyr cyflogres, adolygiadau tâl a gweinyddu bonws, cyfeirio, budd-daliadau, pensiynau, gofal iechyd, arfyrddio / allfyrddio a gwasanaethau hyfforddi a thrydydd partïon eraill fel yswirwyr, bancwyr, gweinyddwyr TG, cyfreithwyr, archwilwyr, buddsoddwyr, ymgynghorwyr a chynghorwyr proffesiynol eraill. Pan fydd y trydydd partïon hyn yn gweithredu fel “prosesydd data”, maent yn cyflawni eu tasgau ar ein rhan ac ar ein cyfarwyddyd at y dibenion a grybwyllwyd uchod. Yn yr achos hwn, dim ond i’r trydydd partïon hyn y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i’r graddau angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaethau gofynnol.

 

Gellir rhannu gwybodaeth bersonol hefyd â rhai systemau rhyng-gysylltu (megis systemau recriwtio, cyflogres, pensiwn a budd-daliadau). Gall darparwyr y systemau hynny, eu cwmnïau cysylltiedig a’u hisgontractwyr gael mynediad i’r data a gynhwysir mewn systemau o’r fath. Yn ogystal, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol gydag awdurdodau cenedlaethol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo. Dyma’r sefyllfa, er enghraifft, o fewn y fframwaith o achos cyfreithiol sydd ar fin digwydd neu yn wyneb archwiliad statudol.

 

I ble caiff fy nata ei drosglwyddo?

Mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu’n bennaf o fewn Ardal Economaidd Ewrop (AEE), ond o bryd i’w gilydd, bydd eich gwybodaeth bersonol (gan gynnwys categorïau arbennig o wybodaeth bersonol) yn cael ei throsglwyddo mewn mannau eraill o’r byd i gwmnïau grŵp ITV neu drydydd parti i’w brosesu, at y dibenion a ddisgrifir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd Gweithiwr llawrydd hwn. Mae gan ITV gwmnïau grŵp o fewn yr AEE a hefyd yn Hong Kong, Awstralia ac UDA. Gall hyn hefyd gynnwys trosglwyddo’ch data personol at ddibenion unrhyw aseiniadau rhyngwladol.

 

Mae cynnal a chadw TG a chymorth digwyddiadau ar gyfer rhai o systemau ITV yn cael ei gontractio allan i gwmni yn India. Mae gan eu staff cefnogi fynediad gweinyddol a gallant gael gafael ar ddata. Maent hefyd yn defnyddio adnoddau o diriogaethau eraill, gan gynnwys yr Ariannin, Canada ac UDA i ddatrys materion cyn gynted â phosib. Rheolir mynediad trwy offeryn rheoli mynediad breintiedig a gall ITV ei ddirymu ar unrhyw adeg.

 

O ganlyniad, mae’n bosib y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei drosglwyddo i wledydd y mae eu deddfau diogelu data yn llai llym na’ch un chi. Os yw hyn yn wir, bydd y Cwmni yn sicrhau bod mesurau diogelu priodol neu addas ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a bod ei drosglwyddiad yn cydymffurfio â’r cyfreithiau diogelu data perthnasol.

 

Pan fo’n ofynnol o dan y gyfraith diogelu data perthnasol, bydd y Cwmni yn sicrhau bod darparwyr gwasanaethau (gan gynnwys cwmnïau eraill sy’n gysylltiedig â’r Cwmni) yn arwyddo cymalau cytundebol safonol fel y’u cymeradwyir gan y Comisiwn Ewropeaidd neu awdurdod goruchwylio arall sydd ag awdurdod dros yr allforiwr Cwmni perthnasol. Os hoffech gael copi o unrhyw gymalau cytundebol safonol sydd ar waith sy’n ymwneud â throsglwyddiadau eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â GDPR@Boomcymru.co.

 

Am ba hyd mae’r Cwmni yn cadw fy nata?

Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol am y cyfnod hwnnw o amser ble mae ei angen ar gyfer y dibenion y cafodd ei gasglu, gan gadw’r wybodaeth mor gyfoes â phosib a sicrhau bod data amherthnasol neu ormodol yn cael ei ddileu neu ei wneud yn anhysbys cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

 

 

Bydd pob diweddariad i’ch CV yr ydych yn ei anfon atom yn cael ei gadw gennym am 4 blynedd a gall ein Rheolwyr Llogi a Thimau Cynhyrchu neu Brosiectau gael mynediad ato, wrth eich ystyried am ymrwymiadau yn y Cwmni yn y dyfodol. Mae gennych hawl i ofyn i’ch CV gael ei ddileu o’n cofnodion, a gallwch wneud hynny trwy gysylltu â GDPR@Boomcymru.co.uk. Byddwn yn ymdrechu bob amser i gyfeirio at y fersiwn ddiweddaraf o’ch CV wrth eich ystyried am ymrwymiadau yn y dyfodol

 

Ein nod yw sicrhau bod y data yn cael ei gadw yn unol â’r cyfnodau a nodir yn yr Amserlen Ddargadw a bod y data hwnnw yn cael ei ddileu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny. Ein bwriad yw rhoi prosesau a gweithdrefnau addas ar waith i gyflawni’r nod hwn. Cofiwch na fydd pob un o’r cofnodion ar yr Atodlen Ddargadw yn berthnasol i’r rhai sy’n ymwneud â chontractau llawrydd.

 

Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol a chydymffurfio â chyfreithiau perthnasol, rydym yn gyffredinol yn cadw eich gwybodaeth gydol eich ymgysylltiad, ac am chwe blynedd ychwanegol wedi hynny. Pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben, byddwn yn dinistrio’ch data yn ddiogel, gan gynnwys data a gedwir gan unrhyw drydydd parti, oni bai bod rhwymedigaeth i’w gadw ymhellach.

 

Efallai y byddwn yn cadw rhai mathau penodol o ddata, (er enghraifft, cofnodion treth, data pensiynau) am gyfnodau gwahanol, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith berthnasol.

 

Pa hawliau sydd gennyf a sut y gallaf eu defnyddio?

Yn llygad y gyfraith, chi yw’r ‘Pwnc Data’ ac mae gennych nifer o hawliau y gallwch chi eu defnyddio dros eich data, fel yr hawl i gael mynediad at, i gywiro, ac i ofyn am ddileu eich gwybodaeth bersonol. O’r 25ain o Fai 2018 mae gennych rai hawliau ychwanegol, e.e. cludadwyedd data, cyfyngu’r prosesu neu wrthwynebu iddo pe bai wedi’i wneud fel diddordeb dilys.

 

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwyliol, yn enwedig yn eich gwlad breswyl (e.e. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y DU), os ydych o’r farn bod prosesu eich gwybodaeth bersonol yn torri cyfraith berthnasol.

Darllenwch fwy am eich hawliau a sut i’w defnyddio neu cysylltwch â HR@Boomcymru.co.uk neu GDPR@Boomcymru.co.uk

 

Pwy yw’r Cwmni? Rhagor o wybodaeth…

Cofrestrwyd Boom Cymru TV Limited yn Lloegr (Rhif y Cwmni: 02936337) a’i swyddfa gofrestredig yw: GloWorks, Porth Teigr Way, Caerdydd CF10 4GA. Mae grŵp o gwmnïau Boom Cymru yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, y cwmnïau canlynol a allai roi contract cyflogaeth i chi:

  • Gorilla TV Limited

Cofrestrwyd yn Lloegr o dan y rhif 03776018

Swyddfa Gofrestredig: GloWorks, Porth Teigr Way, Caerdydd CF10 4GA

 

  • Bait Studio Limited

Cofrestrwyd yn Lloegr o dan y rhif 05991179

Swyddfa Gofrestredig: GloWorks, Porth Teigr Way, Caerdydd CF10 4GA

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) at GDPR@boomcymru.co.uk.

Mae Boom Cymru TV Limited wedi ei gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel rheolwr data (rhif cofrestru: Z9940465). Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ICO www.ico.org.uk

Mae cwmnïau eraill yn grŵp Boom Cymru wedi’u cofrestru gyda’r ICO lle bo’n angenrheidiol.

Pwrpas a sail gyfreithiol

 

Cyf Pwrpas prosesu Angenrheidiol ar gyfer Perfformiad Cytundeb Angenrheidiol i gydymffurfio

â Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Diddordeb

Dilys

Beth yw Diddordeb Dilys y Cwmni?
a) Recriwtio a dethol Y Y Y Mae’r Cwmni yn credu fod diddordeb dilys mewn asesu’n llawn geisiadau am gyflogaeth i sicrhau mai dim ond ymgeiswyr addas a phriodol sy’n cael eu hasesu a’u dethol, fel bod y Cwmni yn canfod y bobl iawn ar gyfer ei fusnes a fydd yn gallu cyfrannu at ei weithrediadau ac i’r diwylliant.

 

Mae’r Cwmni hefyd o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth gadw manylion gweithwyr llawrydd mewn pwll talent a rhannu’r manylion gyda thimau cynhyrchu eraill o fewn y Cwmni, fel bod modd ystyried yr unigolion dan sylw ar gyfer ymrwymiadau eraill y mae’r Cwmni yn recriwtio ar eu cyfer yn y dyfodol. Mae’r Cwmni yn deall mai dyma ddisgwyliad y gymuned gweithwyr llawrydd ac mae’n galluogi’r unigolion hyn i gael eu cyflogi yn amlach. Yr ydym ni o’r farn eu bod yn elwa o hynny a’i fod er eu budd.

b) Archwilio priodol ar gyfer recriwtio a dyrannu tîm, gan gynnwys, lle mae gwiriadau credyd perthnasol a phriodol yn bosib, dilysu hawl i weithio, gwiriadau twyll hunaniaeth, gwiriadau cofnod troseddol (i’r graddau sy’n cael eu caniatáu o dan y gyfraith berthnasol), hanes cyflogaeth berthnasol, statws rheoliadol perthnasol a chymwysterau proffesiynol;   Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth reoli ei weithrediadau busnes yn y modd mwyaf effeithiol ac mae angen iddo wneud penderfyniadau yn ymwneud â dyfodol ei fusnes er mwyn gwarchod ei weithrediadau busnes neu i dyfu ei fusnes, gan gynnwys buddiannau’r gweithlu yn gyffredinol a chwsmeriaid craidd y Cwmni.
c) Darparu a gweinyddu tâl, budd-daliadau statudol, asesu a didyniadau ar gyfer cofrestru awtomatig, ad-dalu treuliau a gwneud didyniadau treth a nawdd cymdeithasol priodol a chyfraniadau eraill yn ôl yr angen; Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes, gan gynnwys sicrhau bod gweithwyr llawrydd yn cael eu talu’n briodol a bod tâl yn cael ei osod ar lefel briodol ac wrth ymgymryd â gweithrediadau busnes arferol.
d) Dyrannu a rheoli dyletswyddau a chyfrifoldebau a’r gweithgareddau busnes y maent yn ymwneud â hwy, gan gynnwys teithio busnes; Y   Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes, gan gynnwys sicrhau bod pob gweithiwr llawrydd yn cyflawni dyletswyddau priodol, wedi’i hyfforddi’n briodol ac yn ymgymryd â’u rôl yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau priodol ac wrth ymgymryd â gweithrediadau busnes arferol.
e) Cyfathrebu’n effeithiol gyda gweithwyr llawrydd Y   Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes gan gynnwys ymgymryd â gweithrediadau busnes arferol a chynnal deialog gyda gweithwyr llawrydd.

 

 

 

Cyf Pwrpas prosesu Angenrheidiol ar gyfer Perfformiad Cytundeb Angenrheidiol i gydymffurfio

â Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Diddordeb

Dilys

Beth yw Diddordeb Dilys y Cwmni?
f) Hyfforddiant Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes, gan gynnwys sicrhau bod pob gweithiwr yn ymgymryd â dyletswyddau priodol, wedi’i yn cymryd hyfforddiant gorfodol ac yn ymgymryd â’u rolau yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau priodol.
g) Cynnal adroddiadau statudol ac arolygon ar gyfer meincnodi, gan nodi ffyrdd o weithio gwell (bydd y rhain yn aml yn anhysbys ond gallant gynnwys proffilio data megis oed a rhyw i ategu dadansoddiad o’r canlyniadau;

 

  Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb cyfreithlon wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pob gweithiwr llawrydd yn ymgymryd â dyletswyddau priodol a hyfforddiant gorfodol, yn ymgymryd â’u rôl yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau priodol. Ymgymryd â gweithrediadau busnes arferol, cynnal deialog gyda gweithwyr llawrydd, gan sicrhau eu bod yn cael eu talu ac yn cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol.
h) Prosesu gwybodaeth am absenoldeb neu wybodaeth feddygol am iechyd neu gyflwr corfforol neu feddyliol er mwyn: asesu cymhwyster ar gyfer budd-daliadau statudol (os yw’n berthnasol, gwneud addasiadau i ddyletswyddau neu’r gweithle; gwneud penderfyniadau rheoli ynghylch ymgysylltu neu ymgysylltu parhaus; Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes, gan gynnwys sicrhau bod pob gweithiwr yn ymgymryd â dyletswyddau priodol, wedi’i hyfforddi’n briodol ac yn ymgymryd â’u rolau yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau priodol a rheoli absenoldeb gweithwyr a hawliau absenoldeb.

Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth reoli risg iechyd a diogelwch a gweithredu ei fusnes. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i nodi a lliniaru risgiau i weithwyr llawrydd neu iechyd, diogelwch neu les gweithwyr eraill a sicrhau, lle bo angen, bod addasiadau priodol yn cael eu gwneud i amodau gwaith.

 

Cyf Pwrpas Prosesu Angenrheidiol ar gyfer Perfformiad Cytundeb Angenrheidiol i gydymffurfio

â Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Diddordeb

Dilys

Beth yw Diddordeb Dilys y Cwmni?
          Mae hyn yn cynnwys cefnogi lles gweithwyr a chymryd camau i nodi a lliniaru risgiau i iechyd, diogelwch neu les y gweithwyr, sicrhau ffitrwydd ar gyfer gwaith a rheoli absenoldeb ac analluogrwydd sy’n effeithio ar allu gweithwyr i gyflawni eu rolau.
i) Cydymffurfio â cheisiadau canoli lle mae’r Cwmni wedi’i enwi gan yr unigolyn fel canolwr;     Y Mae’r Cwmni o’r farn ei fod o fewn buddiannau cyfreithlon ymgysylltydd newydd i gael cadarnhad o fanylion ymgysylltiad gan y Cwmni at ddibenion cadarnhau hanes ymgysylltaeth y cyn-weithiwr llawrydd.
j) Gweithredu e-bost, TG, y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol, perthnasau Adnoddau Dynol a pholisïau a gweithdrefnau’r cwmni eraill. I’r graddau a ganiateir gan ddeddfau perthnasol, mae’r Cwmni yn cynnal gwaith monitro systemau TG y Cwmni i ddiogelu a chynnal uniondeb systemau a seilwaith TG y Cwmni; i sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau TG y Cwmni a lleoli gwybodaeth trwy chwiliadau lle bo angen ar gyfer diben busnes dilys; Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb cyfreithlon wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes. Mae’r swyddogaeth TG yn hanfodol er mwyn sicrhau y gellir gwneud hyn yn y modd mwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys cynnal uniondeb a diogelwch data a hwyluso rheoli cofnodion.

 

Mae hyn yn cynnwys rhoi polisïau a gweithdrefnau priodol ar waith ar gyfer mesur cydymffurfiaeth, canfod torri a gweithredu os na chydymffurfir â hwy.

k) Bodloni ei rwymedigaethau rheoleiddiol i oruchwylio’r personau a gyflogir neu a benodir ganddo i gynnal busnes ar ei ran, gan gynnwys atal, canfod ac ymchwilio i ystod eang o weithgareddau ac ymddygiadau, boed hynny’n ymwneud â materion busnes penodol neu i’r gweithle yn gyffredinol a chydgysylltu gydag awdurdodau rheolaethol;   Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth sicrhau bod ei fusnes, cleientiaid, gweithwyr a systemau yn cael eu hamddiffyn gan gynnwys canfod ac atal troseddau neu weithgarwch troseddol; sicrhau mai dim ond gweithwyr priodol sy’n cymryd rhan yn ein busnes; a sicrhau cydymffurfiaeth â rheolaeth allforio a gofynion cyfreithiol eraill a osodir arnom (gan gyfreithiau’r UE a chyfreithiau gwledydd y tu allan i’r UE).
l) Diogelu gwybodaeth breifat, gyfrinachol a pherchnogol y Cwmni, ei weithwyr, ei gleientiaid a thrydydd partïon;   Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth sicrhau bod ei fusnes, ei gleientiaid, ei weithwyr a’i systemau yn cael eu hamddiffyn gan gynnwys diogelu ein hasedau a chywirdeb ein systemau, gan ganfod ac atal colli ein gwybodaeth gyfrinachol a gwybodaeth berchnogol.

 

Cyf Pwrpas Prosesu Angenrheidiol ar gyfer Perfformiad Cytundeb Angenrheidiol i gydymffurfio

â Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Diddordeb

Dilys

Beth yw Diddordeb Dilys y Cwmni?
m) Cydymffurfio â chyfreithiau a rheoleiddiad perthnasol (er enghraifft, deddfwriaeth seibiant mamolaeth neu seibiant rhieni, amser gwaith a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, rheolau trethi, gofynion ymgynghori gweithwyr, cyfreithiau cyflogaeth a rheoliadau eraill y mae’r Cwmni yn rhwym iddynt wrth gynnal ei fusnes);   Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb cyfreithlon wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pob gweithiwr yn cyflawni dyletswyddau priodol, wedi’i hyfforddi’n briodol ac yn ymgymryd â’u rolau yn gywir ac yn unol â’r gweithdrefnau priodol. Mae hefyd yn angenrheidiol i ymgymryd â gweithrediadau busnes arferol a chynnal deialog gyda gweithwyr a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
n) Rhaglenni monitro i sicrhau cyfle cyfartal ac amrywiaeth o ran nodweddion personol a ddiogelir o dan y deddfau gwrthwahaniaethu sy’n berthnasol;   Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo fuddiannau cyfreithlon i sicrhau ei fod yn cymryd camau i atal gwahaniaethu a hyrwyddo gweithle cynhwysol ac amrywiol.
o) Ar gyfer dogfennaeth weithredol ac adroddiadol busnes fel adroddiadau rheoli a chyfrifon, paratoi adroddiadau blynyddol neu dendrau am waith neu gofnodion tîm cleientiaid, gan gynnwys defnyddio delweddau ffotograffig; Y   Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb cyfreithlon wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes gan gynnwys sicrhau bod pob gweithiwr llawrydd yn ymgymryd â dyletswyddau priodol ac ymgymryd â gweithrediad busnes normal.

 

 

 

 

 

 

Cyf Pwrpas Prosesu Angenrheidiol ar gyfer Perfformiad Cytundeb Angenrheidiol i gydymffurfio

â Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Diddordeb

Dilys

Beth yw Diddordeb Dilys y Cwmni?
p) Gweithredu’r berthynas â chwsmeriaid trydydd parti a chyflenwyr, gan gynnwys datgelu gwybodaeth fetio berthnasol yn unol â gofynion priodol cwsmeriaid i’r cwsmeriaid hynny, manylion cyswllt neu CV proffesiynol neu ddelweddau ffotograffig ar gyfer pwrpas adnabod neu ddatgelu gwybodaeth i brosesyddion data ar gyfer darparu gwasanaethau i’r Cwmni; Y   Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb cyfreithlon wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes gan gynnwys sicrhau bod pob gweithiwr yn ymgymryd â dyletswyddau priodol ac yn ymgymryd â gweithrediadau busnes arferol.

 

Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth briodol gyda chwsmeriaid a chyflenwyr presennol a darparwyr ynghylch pwy sy’n gweithio gyda hwy neu a fydd yn gweithio gyda hwy er mwyn datblygu perthnasoedd cryf a chefnogi perfformiad ymrwymiadau gyda chwsmeriaid a chyflenwyr yn effeithiol.

 

Mewn rhai achosion, gall hyn hefyd gynnwys cynnig cefnogaeth i gwsmeriaid a chyflenwyr i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol neu reoleiddiol neu ofynion diogelwch trwy gael digon o wybodaeth am y rhai sy’n darparu gwasanaethau iddynt.

 

Mae gan y Cwmni ddiddordeb cyfreithlon hefyd wrth sicrhau y gall ymgysylltu â chwsmeriaid a chyflenwyr yn effeithiol a bod modd iddynt gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddarparu’r gwasanaeth priodol

q) Ble mae hynny’n berthnasol ar gyfer cyhoeddi deunydd cyfathrebu neu gyhoeddusrwydd mewnol neu allanol priodol (gan gynnwys delweddau ffotograffig) trwy fewnrwyd y cwmni, cyfryngau cymdeithasol a sianelau cyhoeddusrwydd a chyfathrebu eraill mewn amgylchiadau priodol; Y   Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys o ran rheoli a chyfathrebu â’i weithlu a gweithredu ei fusnes gan gynnwys sicrhau bod pob gweithiwr llawrydd yn cyflawni dyletswyddau priodol ac yn ymgymryd â gweithrediadau busnes arferol.

 

Mae hynny’n cynnwys rhoi gwybodaeth i’r gweithlu neu, lle bo hynny’n briodol, gwsmeriaid, ein cynulleidfa, rhanddeiliaid eraill neu’r farchnad ehangach am weithgareddau, cynlluniau neu brosiectau busnes perthnasol. Gall hynny gynnwys cyfeirio at weithwyr llawrydd sy’n ymwneud â’r materion perthnasol sy’n cael eu cyfathrebu uchod.

 

 

Mae cyfathrebu ac ymgysylltu effeithlon rhwng gweithwyr llawrydd yn cyfrannu at ddenu a chadw gweithwyr llawrydd o safon uchel, datblygu a chadw perthnasau cwsmeriaid, ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chyfranogiad, perfformiad busnes cryf, tyfu busnes a chynnal a gwella enw da’r Cwmni. Mae hyn yn cefnogi nodau busnes byrdymor a hirdymor y Cwmni.

 

 

 

 

 

Cyf Pwrpas Prosesu Angenrheidiol ar gyfer Perfformiad Cytundeb Angenrheidiol i gydymffurfio

â Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Diddordeb

Dilys

Beth yw Diddordeb Dilys y Cwmni?
r) Cefnogi gweinyddu a rheoli a chynnal a phrosesu cofnodion cyffredinol sy’n angenrheidiol i reoli’r berthynas gyda gweithwyr llawrydd a gweithredu’r contract ymgysylltiad; Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes, gan gynnwys sicrhau bod pob gweithiwr llawrydd yn ymgymryd â dyletswyddau priodol, yn derbyn hyfforddiant gorfodol, ac yn ymgymryd â’u rolau yn gywir ac yn unol â’r gweithdrefnau priodol; rheoli absenoldeb a hawliau gwyliau; ymgymryd â gweithrediadau busnes arferol; cynnal deialog gyda gweithwyr a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol.
s) Newid caniatâd mynediad; Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb cyfreithlon wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes. Mae’r swyddogaeth TG yn hanfodol er mwyn sicrhau y gellir gwneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan gynnwys cydymffurfio â pholisïau’r Cwmni a rheolaethau mynediad.
t) Darparu cymorth technegol a chynnal a chadw ar gyfer systemau gwybodaeth AD; Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb cyfreithlon wrth reoli ei weithlu a gweithredu ei fusnes. Mae’r swyddogaeth TG yn hanfodol er mwyn sicrhau y gellir gwneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol gan gynnwys cynnal uniondeb a diogelwch data a hwyluso rheoli cofnodion.
u) Mynnu’n hawliau a’n rhwymedigaethau cyfreithiol, ac at unrhyw ddibenion mewn cysylltiad ag unrhyw hawliadau cyfreithiol a wneir gennych chi, yn eich erbyn neu yn ymwneud â chi mewn rhyw fodd; Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth warchod ei sefydliad rhag torri rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n ddyledus iddo ac i amddiffyn ei hun rhag ymgyfreitha. Mae angen hyn er mwyn sicrhau bod hawliau a buddiannau cyfreithiol y cwmni yn cael eu rheoli’n briodol.
v) Cydymffurfio â cheisiadau cyfreithlon gan awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys a heb gyfyngiad i gwrdd â gofynion gorfodaeth diogelwch neu gyfraith genedlaethol), ceisiadau am ddarganfyddiadau, neu ble mae’n angenrheidiol neu a ganiateir fel arall gan gyfreithiau perthnasol, gorchmynion llys, rheoliadau’r llywodraeth neu awdurdodau rheoleiddiol (gan gynnwys a heb gyfyngiad diogelu data, treth a chyflogaeth), boed o fewn eich gwlad neu du hwnt i’w ffiniau; Y Y Y Mae’r Cwmni o’r farn bod ganddo ddiddordeb dilys wrth sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a osodir arno, boed hynny’n rhwymedigaethau’r UE neu o’r tu allan i’r UE. Mae’r Cwmni yn dymuno cynnal ei enw da fel dinesydd corfforaethol da ac i weithredu’n briodol ym mhob gwlad y mae’n gwneud busnes. Mae hyn yn cynnwys cydweithio ag awdurdodau a chyrff llywodraethol. Yn wir, mae’n ofynnol i’r Cwmni gydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau yn y gwledydd hynny lle mae’n gwneud busnes ac fe fyddai gwneud fel arall yn arwain at wrthdaro mewn materion cyfreithiol.
w) Cynhyrchu ac ecsbloetio rhaglenni clyweledol at ddibenion masnachol, gan gynnwys cadw’r rhaglen a’ch data personol ynddo yn ein harchif, at ddibenion ailddarlledu’r rhaglen neu ei ddefnyddio fel arall at ddibenion masnachol.     Y Mae gan y Cwmni ddiddordeb dilys mewn cynhyrchu rhaglenni clyweledol ar gyfer ecsbloetio masnachol, gan fod cyfraniadau “oddi ar y sgrin” gan unigolion yn hanfodol i’r gweithgaredd cynhyrchu hwn ac mae’n gofyn am brosesu gwybodaeth bersonol am yr unigolion hynny.
x) Pwrpasau eraill a ganiateir gan gyfreithiau perthnasol, gan gynnwys buddiannau dilys a ddilynir gan y Cwmni, lle nad yw buddiannau a hawliau sylfaenol a rhyddid cydweithwyr yn cael blaenoriaeth drostynt.        

 

 

 

 

Data Gweithiwr llawrydd Categori Arbennig

 

Cyf Pwrpas Prosesu Sail gyfreithlon
a)      Asesu ac adolygu cymhwyster i weithio i’r Cwmni yn yr awdurdodaeth yr ydych yn gweithio ynddo. Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni’r rhwymedigaethau ac arfer eich hawliau chi neu’r Cwmni ym maes cyfraith cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a chyfraith diogelu cymdeithasol, i’r graddau y caniateir hynny o dan y cyfreithiau perthnasol. Yn arbennig y gofyniad i wirio fod ganddoch ganiatâd cyfreithiol i weithio yn eich awdurdodaeth.
b)      Casglu data ystadegol yn ddarostyngedig i ddeddfau lleol, neu lle bo angen cofnodi nodweddion o’r fath i gydymffurfio â gofynion cydraddoldeb ac amrywiaeth y ddeddfwriaeth leol berthnasol, neu i gadw ymrwymiad y Cwmni i gyfle cyfartal dan adolygiad. Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol ar gyfer (i) dibenion cyflawni’r rhwymedigaethau ac arfer eich hawliau chi neu’r Cwmni ym maes cyfraith cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a chyfraith diogelu cymdeithasol, i’r graddau y caniateir hynny o dan y cyfreithiau perthnasol a (ii) pwrpas adnabod neu adolygu bodolaeth neu absenoldeb cyfle cyfartal rhwng grwpiau penodol o bobl mewn perthynas â’r categori hwnnw gyda’r bwriad o alluogi cydraddoldeb o’r fath i gael ei hyrwyddo neu ei gynnal.
c)      Cydymffurfio â chyfreithiau cyflogaeth, iechyd a diogelwch neu nawdd cymdeithasol. Er enghraifft, darparu budd-daliadau statudol analluedd neu famolaeth, peidio torri’n dyletswyddau cyfreithiol i chi, sicrhau bod eich cyflogaeth yn cael ei reoli’n deg ac yn gyfreithlon, osgoi terfynu’ch cyflogaeth yn anghyfreithlon, gweinyddu budd-daliadau a thaliadau’r Cwmni sy’n gysylltiedig ag iechyd, absenoldeb oherwydd salwch ac absenoldeb hirdymor oherwydd analluedd, i wneud addasiadau rhesymol ac osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon neu ddelio â chwynion sy’n codi yn hyn o beth. Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni’r rhwymedigaethau ac arfer eich hawliau chi neu’r Cwmni ym maes cyfraith cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a chyfraith diogelu cymdeithasol, i’r graddau y caniateir hynny o dan y cyfreithiau perthnasol.

 

I’r graddau y rheolir y data hwn gan ein cynghorwyr iechyd galwedigaethol neu ddarparwyr budd-daliadau trydydd parti, mae angen y prosesu hwn at ddibenion meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu eich gallu gweithredol, diagnosis meddygol, darparu gofal meddygol neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, i’r graddau y caniateir hynny gan y cyfreithiau perthnasol.

d)      Rheoli ac ymchwilio i unrhyw gwyn o dan bolisïau mewnol y Cwmni, gan gynnwys ei bolisïau ddisgyblu, cwyno, bwlio ac aflonyddu /urddas yn y gwaith a pholisïau chwythu’r chwiban (neu bolisïau perthnasol eraill), lle mae nodweddion neu wybodaeth o’r fath yn berthnasol i’r gwyn benodol, yn er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfraith cyflogaeth. Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni’r rhwymedigaethau ac arfer eich hawliau chi neu hawliau’r Cwmni ym maes cyfraith cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a chyfraith diogelu cymdeithasol, i’r graddau y caniateir hynny o dan y cyfreithiau perthnasol.

 

Yn arbennig felly, deddfau cyflogaeth sy’n ymwneud â rheoli cwynion yn effeithiol, cyfreithiau gwrthwahaniaethu a’n dyletswydd gofal i weithwyr llawrydd.

 

 

 

Amserlen cadw data

 

Categori Math o gofnod Cyfnod Cadw
Gwybodaeth

recriwtio

Ceisiadau am swyddi, CVs, canlyniadau profion a chofnodion cyfweliad ymgeiswyr Chwe mis o’r dyddiad cau am geisiadau
Gwybodaeth

recriwtio

CVs a anfonwyd ar hap a fersiynau diweddaredig o CVs ar gyfer cronfa dalent neu aseiniadau neu rolau posibl yn y dyfodol Pedair blynedd o’r dyddiad y cawsant eu derbyn
Gwybodaeth

recriwtio

Gwiriadau cefndir/Datgelu a Gwahardd – troseddau, achosion a dedfrydau lle mae angen/caniateir hyn yn gyfreithiol neu os yw’r cyflogai neu’r gweithiwr llawrydd wedi cydsynio (ee i ddiogelu diogelwch staff a chwsmeriaid, neu at ddibenion yswiriant) Chwe mis o’r dyddiad recriwtio
Gwybodaeth

recriwtio

Gwiriadau mewnfudiad (dogfennaeth angenrheidiol at ddibenion mewnfudo – e.e. i ddangos dinasyddiaeth, manylion preswyliaeth, trwydded waith) Ddwy flynedd ar ôl terfynu cyflogaeth neu wedi cyflogi
 
Gwybodaeth bersonol Teitl cyflogai neu weithiwr llawrydd neu gontractiwr, enw cyntaf, enw (au) canol a chyfenw, enw genedigol, yr enw a ffafrir gan y person, unrhyw enwau ychwanegol, rhif yswiriant gwladol neu unrhyw rif adnabod arall, rhyw, dyddiad geni, manylion cyswllt cartref (ee cyfeiriad, rhif ffôn, e -bost), rhif adnabod cenedlaethol Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben. At ddibenion credydau, gellid cadw enw a rôl yn ystod ymelwad y rhaglen.
Gwybodaeth bersonol Cenedligrwydd, ail genedligrwydd, statws sifil / priodasol, perthynas agosaf / dibyniaeth / gwybodaeth gyswllt brys Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Manylion gwaith sylfaenol Manylion cyswllt gwaith (ee cyfeiriad corfforaethol, rhif ffôn, e-bost), iaith gyntaf, parth amser Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
 
Telerau ac amodau cyflogaeth neu ymgysylltu Contractau cyflogeion, manylion ysgrifenedig contract, telerau ac amodau (gan gynnwys unrhyw ddiweddariadau), telerau ac amodau llawrydd Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Telerau ac amodau cyflogaeth Cytundebau gweithlu ar y cyd (gan gynnwys cytundebau blaenorol a allai effeithio ar weithwyr presennol) Yn barhaol –  cyn belled ag y gall y cytundebau effeithio ar weithwyr presennol
 
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion AD (yn gyffredinol) Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion Adolygiadau Perfformiad Gweithwyr
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion disgyblu / cwynion cyflogeion
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cymwysterau Qualifications  [a chofnodion rheoleiddiol]
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion hyfforddi gweithwyr cyffredinol (oni bai bod deddfwriaeth benodol yn berthnasol i gofnodion hyfforddiant ar gyfer rôl benodol)
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion o wiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion Ymchwiliadau, gan gynnwys adroddiadau chwythu’r chwiban.
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion terfynu, ymddeoliad neu ymddiswyddiad
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion absenoldeb (ddim yn gysylltiedig â salwch neu famolaeth / tadolaeth / mabwysiadu)
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion absenoldeb (cysylltiedig â salwch) Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Cofnodion AD a Hyfforddiant Gwybodaeth feddygol, gan gynnwys alergeddau, anableddau, gofynion dietegol, manylion cyswllt meddygon teulu (lle bo’n ofynnol yn gyfreithlon neu lle rhoddir caniatâd, er mwyn caniatáu amser statudol i ffwrdd am salwch, neu i alluogi addasiadau cyflog / cyflog priodol). Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Cofnodion AD a Hyfforddiant Ffotograffau o gyflogedigion neu weithwyr llawrydd – cerdyn adnabod (cyfeiriadur gweithredol) Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion gwyliau blynyddol Chwe blynedd (neu hirach, o bosib, os caniateir cario gwyliau drosodd o flwyddyn i flwyddyn)
Cofnodion AD a Hyfforddiant Cofnodion absenoldeb arall Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
 
Rheoliadau Amser Gwaith Ffurflenni optio allan o Amser Gwaith (ble mae hynny’n berthnasol i chi) Chwe blynedd o ddyddiad yr ymrwymiad
Rheoliadau Amser Gwaith Cofnodion i ddangos cydymffurfedd gydag  WTR (e.e. taflenni amser ar gyfer gweithwyr sydd wedi’u heithrio, cofnodion asesu iechyd ar gyfer gweithwyr nos) Chwe blynedd wedi’r cyfnod perthnasol
 
Taliadau cyflogres a chyflog / Taliadau gweithwyr llawrydd / Contractwr Cofnodion cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) required by HMRC & 46R (Freelancers) records, NI numbers Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am weddill y flwyddyn bresennol a hyd at chwe blynedd gyfan wedi hynny ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Taliadau cyflogres a chyflog / Taliadau gweithwyr llawrydd / Contractwr Taliadau a Didyniadau Amrywiol ee Amserlenni Bonws, Llwythi Goramser, Tâl Contract, Taliadau TAW, Cynnydd Cyflog, Rhestrau Cynilo Wrth Ennill (SAYE), Didyniadau Gwirfoddol. Gan gynnwys manylion oriau gwaith Am hyd at chwe blynedd ar ôl diwedd y Flwyddyn Ariannol ar gyfer dibenion archwiliad.
Taliadau cyflogres a chyflog / Taliadau gweithwyr llawrydd Manylion banc cyflogai / gweithiwr llawrydd Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau, ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
 
Cyllid a Chyfrifyddu Ffeiliau cyfarwyddyd banc a ffeiliau taliadau Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am weddill y flwyddyn bresennol a hyd at chwe blynedd gyfan wedi hynny ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
 
Treuliau a buddiannau Cofnodion cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) CThEM, gan gynnwys rhifau Yswiriant Gwladol, gan gynnwys e.e. car, tanwydd a data costau meddygol ar gyfer llenwi ffurflen P11d. Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am weddill y flwyddyn bresennol a hyd at chwe blynedd gyfan wedi hynny ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Treuliau Treuliau busnes a godir trwy gredyd corfforaethol a hawlir trwy gredyd corfforaethol neu wariant a hawliwyd ar gerdyn credyd personol neu mewn arian parod. Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am weddill y flwyddyn bresennol a hyd at chwe blynedd gyfan wedi hynny ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
 
Cofnodion polisi teuluol Dyddiadau absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu, tystysgrifau Mamolaeth yn dangos data dyddiad disgwyl babi(s) (ffurflen MATB1) Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Cofnodion polisi teuluol Manylion taliadau mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu, neu o gyfnod hed daliadau mamolaeth. Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
 
Monitro Ffilm Teledu Cylch Cyfyng Un mis
Monitro Data system log / data log y we / IT system log data / web log data / unthyw ddata adnabod electronig arall (gan gynnwys data dyfais) Dim hirach nag sy’n angenrheidiol
 
Cyfreithiol Manylion unrhyw hawliadau gan gyflogedigion /weithwyr llawrydd / contractwyr yn erbyn y cwmni Chwe blynedd o ddyddiad terfynu cyflogaeth neu ymgysylltiad
Cyfreithiol Manylion unrhyw hawliadau gan gyflogedigion /weithwyr llawrydd / contractwyr yn erbyn y cwmni yn erbyn yswiriant y cwmni. Chwe blynedd o ddyddiad terfynu cyflogaeth neu ymgysylltiad
Cyfreithiol Manylion unrhyw hawliadau gan gyflogedigion /weithwyr llawrydd / contractwyr Chwe blynedd o ddyddiad terfynu cyflogaeth neu ymgysylltiad
 
Categorïau arbennig o ddata Gwybodaeth ynglŷn â hil neu ethnigrwydd (e.e. at ddibenion cyfle cyfartal / gyda chaniatâd y cyflogai) Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Categorïau arbennig o ddata Cyfeiriadedd rhywiol (e.e. at ddibenion cyfle cyfartal / gyda chaniatâd y cyflogai) Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Categorïau arbennig o ddata Ymlyniadau gwleidyddol, crefydd, cefndir cymunedol, credoau athronyddol neu gredoau tebyg pan fo rheidrwydd cyfreithiol / ble caiff ei ganiatáu neu lle mae’r gweithiwr wedi cydsynio, e.e. er mwyn caniatáu amser statudol i ffwrdd o’r gwaith  at ddibenion crefyddol, neu er mwyn galluogi talu trethi sy’n seiliedig ar grefydd / ffydd sy’n bodoli mewn rhai gwledydd Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd ar ôl i gyflogaeth neu ymgysylltiad ddod i ben.
Categorïau arbennig o ddata Caniatâd ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol sensitif Mor hir ag mae’n cymryd i brosesu’r data ac am hyd at chwe blynedd wedi hynny
 
Buddion Cofnod o wobrwyo a hawl budd-dal, dyddiad cychwyn a chyfranogiad Tra bod cyflogaeth neu ymgysylltiad yn parhau ac am hyd at chwe blynedd wedi’r taliad budd-dâl olaf.
 
Iechyd a Diogelwch Manylion unrhyw ddamwain, farwolaeth neu anaf adroddadwy a ddigwyddodd mewn cysylltiad â gwaith O leiaf dair blynedd wedi i’r adroddiad gael ei ysgrifennu
 

 

 

Hawliau testun data

Beth yw fy hawliau fel testun y data a sut gallaf eu defnyddio?

Fel testun data, mae gennych lawer o reolaeth dros yr wybodaeth yr ydym yn ei chadw arnoch chi. Mae’r hawliau hyn a sut i’w defnyddio yn cael eu hesbonio isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad arnoch, cysylltwch â HR@Boomcymru.co.uk neu GDPR@Boomcymru.co.uk

Mynediad i’m data

Gallwch ofyn am fynediad at y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Gydag eithriadau cyfyngedig, byddwn hefyd yn dweud wrthych chi:

  • pam ein bod yn ei brosesu;
  • pwy yr ydym ni’n ei rannu â nhw, ac os oes unrhyw wybodaeth yn cael ei drosglwyddo i wlad nad yw’n cael ei ystyried fel gwlad sydd heb amddiffyniadau digonol ar gyfer data personol;
  • pa mor hir y byddwn yn cadw eich data;
  • ffynhonnell y wybodaeth, os na chafodd ei gasglu’n uniongyrchol oddi wrthych chi;
  • os ydym yn defnyddio’ch data ar gyfer gwneud penderfyniadau neu broffilio awtomeiddedig.

Os ydych yn gwneud cais am gopi o’ch data personol yr ydym yn ei brosesu, byddwch mor benodol â phosib os gwelwch yn dda, gan y bydd hyn yn ein helpu ni i ganfod yr wybodaeth yn gyflymach a rhoi copi i chi heb unrhyw oedi gormodol.

 

Cywiro gwallau

Os ydych chi’n teimlo bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, gallwch ofyn i ni ei gywiro neu ei ddiweddaru.

 

Yr hawl i gael eich anghofio

Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu’ch gwybodaeth, er na fyddai hynny’n bosibl bob tro os yw gwneud hynny yn golygu na allwn gyflawni ein contract gyda chi, neu ble mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol neu ddiddordeb cyfreithlon i gadw’r data. Byddwn yn esbonio canlyniadau dileu’ch data.

 

Cyfyngu’r prosesu

Os ydych chi’n teimlo ein bod yn prosesu’ch gwybodaeth yn anghyfreithlon neu â data anghywir, gallwch ofyn i ni gyfyngu’r prosesu. Pan fo gwybodaeth bersonol yn destun cyfyngiad yn y modd hwn, dim ond gyda’ch caniatâd y byddwn yn ei brosesu neu ar gyfer sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol oni bai bod gennym eich caniatâd. Os yw’r prosesu wedi ei gyfyngu, byddwn yn parhau i storio’r data.

 

Gwrthwynebu’r Prosesu

Os ydych yn anghytuno ag unrhyw fudd neu fuddiant cyhoeddus dilys yr ydym wedi dibynnu arno i brosesu eich data, gallwch wrthwynebu’r prosesu. Yna byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu’r data oni bai ein bod yn gallu dangos sail gyfreithiol gadarn sy’n goresgyn eich hawliau, neu fod rhaid prosesu’r data er mwyn sefydlu neu amddiffyn hawliad cyfreithiol.

 

Hygludedd Data

Pan fyddwn ni’n dibynnu ar eich caniatâd neu’r ffaith bod prosesu yn angenrheidiol ar gyfer perfformio contract y byddwch chi’n barti ohono fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu, a bod data personol yn cael ei brosesu trwy ddulliau awtomatig, mae gennych yr hawl i dderbyn yr holl ddata personol o’r fath yr ydych wedi ei roi i’r Cwmni mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn aml ac sy’n ddarllenadwy ar beiriant, gallwch hefyd ei gwneud yn ofynnol i ni ei drosglwyddo i reolydd arall, lle mae hyn yn dechnegol ymarferol. Rydym wedi cynhyrchu fformat safonol o ddata gweithwyr a ddefnyddir yn gyffredin at y diben hwn.

 

Gwneud cwyn

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich data a chynnal eich hawliau, ond os ydych chi’n teimlo nad ydym wedi gwneud hynny, cysylltwch â ni GDPR@Boomcymru.co.uk. Yn ogystal, mae gennych yr hawl i gwyno i’r awdurdod goruchwylio perthnasol, sef Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) un y DU.

 

Cysylltwch â HR@Boomcymru.co.uk neu GDPR@Boomcymru.co.uk os ydych am gael unrhyw wybodaeth ychwanegol am yr hyn a welwch uchod neu os hoffech esboniad pellach o’ch hawliau.

 

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV