Cyfres ddrama llawn tensiwn a hiwmor tywyll gydag islais gwleidyddol a chymdeithasol. Mae taith y ddwy ffrind yn parhau yn yr ail gyfres gydag Enid, Lucy a babi Archie bellach yn byw o dan yr un to. Mae Lucy’n cael swydd mewn siop trin gwallt ac mae Brian, dyn gweddw...
Drama nwydus newydd am gwymp hunan-ddinistriol Della Howells; menyw lwyddiannus sy’n dechrau perthynas beryglus gyda dyn ifanc llawn cyfrinachau. ‘The Welsh Lupin’ (Radio Times), ‘Hooked…great stuff!’ (Russell T Davies)
Mae pumed cyfres 35 Diwrnod yn ddrama gyfoes wedi ei gosod mewn tref glan môr ac yn ymwneud â pherthnasau hen a newydd sy’n symud a newid gyda’r llanw. Mae’n dinoethi’r gwrthdaro rhwng y rhai tu mewn a tu allan i gymdeithas glos, a’r tensiynau sy’n dod o...
Cyfres ddrama pedair pennod yn llawn syspens a thensiwn gyda hiwmor tywyll ac islais gwleidyddol a chymdeithasol. Mae trafferth yn dilyn Lucy lle bynnag mae’n mynd. Yn fam ifanc sy’n cael ei churo gan ei phartner Denfer, mae pob dydd yn sialens. Un diwrnod mae Lucy’n...
Dyn ifanc yn cael ei saethu gan aelod o’i deulu … 15 diwrnod ynghynt mae’r teulu’n dychwelyd i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol cartref y teulu. Ond mae ‘na gyfrinachau teuluol … hen hanes … hen gynnen sy’n rhwygo’r teulu ar...
Mae’r cloc yn tician yn y bedwaredd gyfres o 35 Diwrnod, ac er bod y gyfres yn dilyn yr un strwythur â’r cyfresi blaenorol, mae gwahaniaeth sylweddol. Gan gychwyn gyda marwolaeth amheus, rydym yn dilyn yr hanes y 35 awr yn arwain i’r digwyddiad.
Ffilm bwerus ac emosiynol sy’n seiliedig ar hanes trasig y gantores, y pianydd a’r gyfansoddwraig dalentog o Drefforest Morfydd Owen. Ar ôl symud i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol fe wnaeth y ferch brydferth, fywiog yma fwynhau cwmni D H Lawrence,...
Mae’r Nadolig yn amser cyffrous i bawb ond bydd yr Ŵyl eleni yn un arbennig iawn i Clive a Rhi. Dyma eu Nadolig cyntaf gyda’u mab newydd Frank sy’n un ar ddeg mlwydd oed. Yn anffodus dyw hwyl yr Ŵyl ddim yn dod â gwen i wyneb Frank. A dweud y gwir yr unig beth sydd yn...
Ffilm gan Gwyneth Lewis sydd yn portreadu cyfnod cythryblus yn ein hanes – streic y glowyr 1984/1985. Merch ifanc o’r enw Carys yw’r prif gymeriad a chawn ddilyn y streic trwy ei phrofiadau a’i bywyd teuluol hi. Mae Carys yn 17 oed, ac yn torri ei bol eisiau gadael a...
Dolwen. Hen dŷ mawreddog yng nghanol dyffryn cyfoethog, gwyrddlas. Ar ôl marwolaeth Mair mae ei phlant a’u teuluoedd yn dychwelyd yn ystod gwyliau’r haf i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol Dolwen. Mae yma gyfrinachau teuluol. Hen hanes....
Dyma ffilm gerdd i’r teulu cyfan sy’n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o’r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw’n brysur tu hwnt. Mae Noa’n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus...
Wedi’i leoli mewn swyddfa cwmni ymchwilio twyll yswiriant, mae’r gyfres yn ein tywys yn ôl 35 diwrnod cyn marwolaeth Simon Jones. Mae straeon y cymeriadau unigol yn clymu a’i gilydd, gan ddatgelu cyfrinachau tywyll …