Cyfres llawn antur sy’n dilyn y cyflwynwyr Meleri Williams a Huw Owen wrth iddyn nhw grwydro Cymru yn darganfod beth mae plant yn hoffi ei wneud yn yr awyr agored. Ymhob rhaglen mae Meleri a Huw yn cyfarfod â chriw newydd o blant ac yn ymuno â nhw mewn pob math...
Er bod blynyddoedd wedi mynd heibio ers i ni glywed sôn amdani, maen nhw’n dweud mai cynllwynio a pharatoi mae Gwrach y Rhibyn, er mwyn dychwelyd rhyw ddydd, felly rhaid bod yn ofalus wrth fynd allan i’r awyr agored wedi iddi nosi. Cyfres antur eithafol gyda phedwar...
Mae Meet the Experts yn dathlu gwybodaeth a llwyddiannau plant yn eu hobi neu eu arbenigedd.Mae pob un ohonom yn nabod plentyn sy’n angerddol am bwnc arbennig, mae’r gyfres hon yn rhoi llwyfan i’r plant yma ddangos eu sgil neu eu gwybodaeth, ac yna eu clodfori am eu...
Criw Stwnsh yn cyflwyno chwedlau Cymru mewn ffordd ti ‘rioed ‘di weld o’r blaen! Yr wythnos hon, dyma eu fersiwn nhw o stori Geraint ac Enid. Digon o hwyl, chwerthin a chanu!
Cyfres hanes byw i blant 5 – 8 mlwydd oed sy’n ymwneud a chyfnodau mewn hanes o berspectif profiad plentyn sy’n byw yn y cyfnod hwnnw. Hon yw’r drydedd gyfres a y tro hwn, rydyn ni’n mynd yn ôl i gyfnod Llywelyn Fawr yn yr Canol Oesoedd ac fe welwn sut mae pawb o fewn...
Cyfres ‘broken comedi yn llawn sgetsys, caneuon dwl a spoofs sydd ddim Chwarter Call! Gyda chast o actorion newydd sbon Cadi, Luke, Jed a Miriam mae’r cyfan yn lot o lols.
Cyfres wyddoniaeth adloniadol i blant 7 – 11 mlwydd oed. Mae’r brodyr Rhys ac Aled Bidder sy’n angerddol am bopeth wyddonol yn ôl gyda’r arbrofion gwyddonol sy’n rhyfeddol, anhygoel ac yn rhy beryglus i’w gwneud adre’.
Drama 6 phennod ‘sci-fi’ llawn dirgelwch. Mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd – diwrnod lansio’r ddyfais gyfathrebu fwyaf cyffrous ers y ffôn symudol. Mae’r cwmni byd-eang ITOPIA yn rhyddhau’r ‘Z’ – dyfais chwyldroadol sy’n cael ei fewnblannu yn y glust, ac sy’n...
Cyfres fore Sadwrn fyw i blant 6-10 mlwydd oed, yn llawn cystadleuthau, gweithgareddau a gemau rhyngweithiol, a chyfleuon i fod yn rhan o’r darllediad. Gyda thîm o gyflwynwyr egniiol, mae’r gyfres yn darlledu am 30 wythnos o’r flwyddyn.
Mae cyn-chwaraewr Cymru Owain Tudur Jones a’r cyflwynydd Heledd Anna ‘nôl i helpu bob ffan pêl-droed ifanc i wella eu sgiliau, triciau a tekkers ar y cae. Yn y gyfres newydd, mae chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru fel Ben Davies, Ethan Ampadu, Angharad James a Daniel...
‘Un Cwestiwn’ yw’r raglen sy’n troi’r fformat cwis ar ei ben. Y cwestiwn gynta welwch chi yw’r un hollbwysig – ateb hwnw’n gywir i gipio’r tlws. Ond i gael cyfle i ateb yr ‘Un Cwestiwn’ rhaid aros yn y gêm am 4 rownd. Yn ogystal, y mwya o atebion cywir yn ystod y...
Be chi’n cael os chi’n rhoi cyfle i blant fynd amdani am y tro cyntaf yn y gegin a chael hwyl wrth goginio? Potsh wrth gwrs! Leah Gaffey a Dyfed Cynan, ein cyflwynwyr, fydd yn helpu’r tîm pinc a’r tîm glas yn y gegin wrth iddyn nhw drio ennill y Pinafal Aur! O fewn...